Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Chwefror 2017

Mapio ein lleoedd arbennig yng Nghymru

Gall pobl yn awr ‘gerdded’ rhai o lwybrau eiconig Cymru o gysur eu cadair freichiau wedi i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gydweithio â Google i ychwanegu ein safleoedd arbennig i Google Street View.

Mae’r rhain yn rhoi golygfa banoramig 360o, fel y gall unrhyw un sydd â mynediad i’r we ‘gerdded’ y llwybrau’n rhithiol drwy ddefnyddio Street View ar Google Maps.

Mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad CNC i helpu mwy o bobl i fod yn actif ac i fwynhau’r awyr agored.

Dywedodd Max Stokes, Swyddog Cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym ni’n gofalu ar ôl nifer fawr o safleoedd ar draws Cymru lle gall pobl fynd i redeg, i gerdded ac i feicio mynydd.

“Mae lansio’r mapiau digidol gyda Google yn golygu y gallwn ni’n awr arddangos y lleoedd arbennig hyn ar lwyfan byd-eang.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd y profiad ‘warden rhithwir’ yn annog mwy o bobl i fynd allan ac i fwynhau’r awyr agored.”

Mae’r mapiau’n cynnwys teithiau ar hyd llwybrau bordiau Cors Caron, trwy Warchodfa Natur  Dyfi Ynyslas ac o amgylch ardal o raeadrau hardd ym Mannau Brycheiniog.

Ac fe gafodd hyn oll ei gwblhau gan staff CNC a wirfoddolodd i gymryd rhan.

Dywedodd Max Stokes ymhellach: “Bu dros 60 aelod o staff yn cerdded dros 40 llwybr unigol gyda’r Street View Trekker.

“Gwisgwyd y camera fel pecyn ar eu cefnau fel ein bod yn gallu cipio llwybrau y gellir ond cael mynediad atynt ar droed.

“Eu brwdfrydedd nhw oedd yn allweddol i lwyddiant y prosiect.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiect, a rhestr lawn o’r safleoedd sydd wedi’u mapio, ar flog Max ar wefan CNC.

Gellir dod o hyd i’r mapiau digidol ar Google Maps.

Rhannu |