Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Chwefror 2017

Gwaith i ddechrau ar Ganolfan Forol Porthcawl

Bydd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn cyhoeddi heddiw bod datblygiad amlwg ym Mhorthcawl wedi cymeryd cam arall ymlaen wedi derbyn cadarnhâd o £2.1 miliwn o gyllid yr UE. 

Mae Canolfan Forol Porthcawl, sy’n werth £5.5 miliwn yn rhan o’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaid sy’n anelu at greu 11 o gyrchfannau eraill y mae’n rhaid ymweld â hwy ledled Cymru.  

Hefyd, gydag arian y Loteri Fawr, Llywodraeth Cymru, ag arian y sector preifat a’r trydydd sector, mae’r Ganolfan Forol yn gam cyntaf ar gyfer rhaglen Buddsoddi ym  Mhorthcawl sy’n anelu at drawsnewid Porthcawl yn gyrchfan bwysig o safon uchel yng Nghymru fydd yn denu ymwelwyr newydd i’r ardal.  

Mae gan y datblygiad y potensial i greu 55 o swyddi yn ogystal â chefnogi swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, gan ddapraru cyfleoedd am swyddi i bobl leol. 

Meddai’r Gweinidog: “Yr arfordir yw Pwynt Gwerthu Unigryw y sir, a dyma pam y mae mwyafrif yr ymwelwyr yn dod i’r ardal.  Ond i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal, mae angen inni ddaprau mwy o gyfleusterau a gwasanaethau arbennig i breswylwyr ac ymwelwyr.

"Bydd Canolfan Forol Porthcawl yn cyflawni’r nod hwn drwy ddarparu atyniad cyffrous ac arloesol i deuluoedd drwy’r flwyddyn ar lan y môr. 

“Ein nod trwy’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw canolbwyntio ein hymdrechion a’n buddsoddiadau ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth fel ein bod yn cael effaith wirioneddol ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol ryngwladol hon.  

“Mae Canolfan Ddarganfod a Gwyddoniaeth yr Arfordir Seaquest yn brosiect cyffrous iawn fydd yn ysbrydoli pobl ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth ac ystyried gyrfaoedd ym myd gwyddoniaeth.

"Llongyfarchiadau i bawb fu’n rhan o ddatblygu’r prosiect at y pwynt hwn ac rwy’n dymuno’r gorau ichi.”  

Wrth groesawu’r penderyfniad, dywedodd Mike Clarke, cadeirydd Cwmni Buddiannau Cymunedol Harbwr Porthcawl:  “Mae’n amhosibl i ddisgrifio’n llawn pa mor gyffrous a balch y mae tîm  Porthcawl Harbourside CIC o dderbyn y caniatâd i fynd ymlaen â’r prosiect hwn.

"Dyma ddangos hyder mawr yn ein tîm ac yng nghymuned Porthcawl.

"Rydym yn credu bod hwn y prosiect twristiaeth mwyaf yn y DU o bosib i gael ei arwain gan y gymuned, ac rydym bellach yn gallu cynnig tendr ar gyfer yr adeiladu a dechrau ar y prosiect.”  

Bydd y gwaith adeiladu ar y Ganolfan Forol yn dechrau yn nghanol 2017. 

Dros y bum mlynedd nesaf, bydd y rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaid yn gweld dros £85 miliwn o o arian yr UE, Llywodraeth Cymru ac arian Preifat ac Elusennol yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau twristiaeth ledled Cymru.  

 

Rhannu |