Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Chwefror 2017

Croesawu uwchraddio pellach i rwydwaith ffonau symudol ym Mangor

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi croesawu gwaith o uwchraddio’r rhwydwaith ffonau symudol lleol ar ôl i Vodafone gyhoeddi buddsoddiad yn ninas Bangor, gyda hanner deheuol y dref a'r ardaloedd arfordirol yn elwa o wasanaethau 4G dros y misoedd nesaf.

Daw'r cyhoeddiad ychydig fisoedd ar ôl i Mr Williams gyfarfod â Vodafone yn Llundain i lobïo am welliannau i ddarpariaeth ffonau symudol ar draws etholaeth Arfon.

Mae’r AS Plaid Cymru wedi hir-ymgyrchu dros well signal symudol a data ar draws gogledd Cymru.

Dywedodd Hywel Williams AS: "Mae'n galonogol fod un o ddarparwyr telathrebu symudol fwyaf y DU wedi penderfynu uwchraddio eu gwasanaethau ac mae ganddynt gynlluniau uwchraddio pellach i'r rhwydwaith symudol lleol.

“Gobeithiaf bydd y buddsoddiad mewn seilwaith symudol yn gwella cyflymder i gwsmeriaid Vodafone ym Mangor a'r cyffiniau ac yn annog darparwyr rhwydwaith eraill i fuddsoddi mewn uwchraddio eu gwasanaethau.

“Rwyf wedi dadlau'n gyson am well gwasanaeth symudol mewn ardaloedd gwledig gan gyfarfod yn ddiweddar â Vodafone a darparwyr rhwydwaith eraill i lobio am fuddsoddiad pellach mewn seilwaith ddigidol ar draws Arfon.

“Roedd fy nghyfarfod diweddar â Vodafone yn adeiladol ac roeddwn yn falch o’u hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy a fydd yn arwain at welliannau i fy etholwyr.”

Ar hyn o bryd mae Vodafone yn cynnal rhaglen fuddsoddi mawr ar draws y DU ac wedi buddsoddi mwy na £2bn er 2014 ac yn disgwyl gwario £2bn arall dros y tair blynedd nesaf.

Rhannu |