Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Chwefror 2017

Dyfodol yn galw am beidio gwario arian y Gymraeg ar adeilad S4C

Ddylai’r Llywodraeth ddim gwario yr un geiniog o arian ei hadran Gymraeg ar adeilad i S4C. Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith wrth i’r Llywodraeth ystyried a fydd yn cyfrannu at adeilad yng Nghaerfyrddin a fyddai’n gartref i S4C.

Meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae angen i arian Adran Gymraeg y Llywodraeth gael ei gadw at brosiectau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg.

"Gallai colli arian o’r fath wneud niwed mawr i brosiectau gwerthfawr.”

Ychwanegodd:  “Rydym ar deall bod y Llywodraeth yn ystyried cyfrannu at yr adeilad o gyllid Gweinidog o Gymraeg, ac yn ein barn ni ddylai Gweinidog y Gymraeg gyfrannu at adeilad o’r fath lle bynnag y bydd.

“Mae angen i unrhyw arian a allai fod dros ben yn yr Adran Gymraeg gael ei roi i brosiectau sy’n hybu’r Gymraeg yn y gymuned, gan gynnwys cyfrannu at gadwyn o Ganolfannau Cymraeg.

"Mae arian at bethau fel hyn wedi bod yn ddigon prin, a byddai cymryd arian o gyllideb y Gymraeg yn peryglu gwaith da sy’n cael ei wneud.”

Llun: Heini Gruffudd

Rhannu |