Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Chwefror 2017

Agor siop newydd M&S yn Aberystwyth

Bydd Marks & Spencer yn agor ei siop newydd yn Aberystwyth ar ddydd Iau 23 Mawrth. Wrth ymyl gorsaf drenau’r dref, bydd y siop 35,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys tri llawr o ddillad, Foodhall mawr a M&S Café 116 sedd.

Mae’r cwmni yn gwahodd pobl leol i fwynhau gwydraid o fizz a dathlu’r agoriad am 10am, pan fydd rheolwr y siop Chris Bentley a’i dîm o 150 yn torri’r rhuban er mwyn croesawu cwsmeriaid i’r siop am y tro cyntaf.

Mae Chris a’i gydweithwyr eisoes yn cynllunio ar gyfer y diwrnod cyntaf cyffrous.

Drwy gydol y dydd, bydd pobl yn profi cynigion arbennig ac ambell i syrpreis, yn cynnwys cystadleuaeth i ennill cardiau rhodd M&S a chyfleoedd i brofi cynnyrch yn y siop.

Wrth agor M&S Aberystwyth, mae’r cwmni wedi creu 150 swydd newydd yn yr ardal, o gynorthwywyr cwsmeriaid i arddangoswyr cynnyrch.

Ymunodd rheolwr y siop Chris Bentley â thîm M&S dros 15 blynedd yn ôl, gan ddechrau wrth stocio silffoedd bwyd ar ddydd Sadwrn yn M&S Henffordd. Ers hynny mae wedi dringo’r ysgol o fewn y cwmni.

Dywedodd Chris: “Rwy’n edrych ymlaen at groesawu ein cwsmeriaid cyntaf drwy’r drysau ar 23 Mawrth a chael ymateb y trigolion lleol.

"Bydd ein tîm, llawer ohonynt o’r ardal, yn sicrhau bydd y gymuned yn ganolog i’n holl weithgaredd, gan geisio gwneud pob ymweliad â’r siop yn brofiad arbennig."

Cwblhawyd y gwaith adeiladu erbyn hyn, gyda’r gwaith gosod ac addurno tu fewn eisoes ar y gweill. Cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer arwyddion y siop i Gyngor Sir Ceredigion.

Rhannu |