Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Chwefror 2017

Galw ar San Steffan i godi a chefnogi gweithwyr Tata

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gefnogi gweithwyr Tata ar ôl iddynt bleidleisio dros dderbyn bargen newydd sydd yn delio gyda’u pensiynau.

Dywedodd Mr Thomas, sydd wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi gweithwyr Tata Llanelli: “Mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth San Steffan yn gweithio’n gadarnhaol i gadw cynhyrchiant dur yng Nghymru.

“Mae gweithwyr dur Tata wedi cymryd cam dewr iawn a nawr mae rhaid i Lywodraeth San Steffan gwneud yr un peth, gan gynnwys ystyried cymryd cyfan yn y cwmni.

“Rhaid i Tata profi’r £1biliwn o fuddsoddiad a addawai a dylai Llywodraeth San Steffan gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod rhan o’r arian hynny yn dod i Lanelli.

“Roedd hi’n siomedig iawn i ddarganfod nad oedd Llywodraeth San Steffan yn gweld y diwydiant dur fel blaenoriaeth ar ôl Brexit mewn dogfen a ddatgelwyd ar hap.

"Unwaith eto, mae’r Ceidwadwyr wedi profi eu dirmyg tuag at ddosbarth gweithiol Cymru.

"Ni fyddai unrhyw un yn derbyn cau ein diwydiant dur fel canlyniad o adael yr UE.

“Byddaf yn parhau i wthio Llywodraeth Cymru i barhau eu sgyrsiau gyda San Steffan a Tata er mwyn cefnogi ein gweithwyr dur,”

Rhannu |