Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Chwefror 2017

O Splott i Ferlin ac Efrog Newydd

YN dilyn perfformiadau hynod lwyddiannus ar draws y DU, bydd Theatr y Sherman yn rhannu drama gwobrwyol Gary Owen Iphigenia in Splott gyda chynulleidfaoedd yn Berlin ac Efrog Newydd.

Bydd yn cael ei pherfformio yn un o theatrau mwyaf arloesol y byd, sef Schaubühne yn Berlin, o 6 - 8 Ebrill. O 9 Mai - 4 Mehefin bydd y ddrama yn cael ei llwyfannu yn Theatr 59E59 Efrog Newydd fel rhan o’r Ŵyl Brits Off Broadway.

Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn dangos statws artistig Theatr y Sherman, sy’n prysur gynyddu, ac yn amlygu ei safle fel dylanwad mawr yn y maes ysgrifennu newydd yn y DU. Nod y daith ryngwladol hon yw datblygu presenoldeb Theatre y Sherman ar y llwyfan rhyngwladol. 

Dywed y cyfarwyddwr artistig Rachel O’Riordan: “Rwyf mor falch o gyflwyno’r dalent orau o Gymru i gynulleidfa ryngwladol. Mae perfformio yn y Schaubühne yn Berlin ac yn y 59E59 yn Efrog Newydd yn rhoi’r Sherman wrth galon gwaith newydd o’r radd flaenaf sy’n torri tir newydd. Mae’n anrhydedd cael ein dewis, a chynrychioli Cymru ar lwyfan y byd.”

Mae’r ddau ymrwymiad rhyngwladol proffil uchel hyn yn dilyn cyfres o berfformiadau hynod boblogaidd o’r ddrama berthnasol hon yn y National Theatre, Llundain, Gŵyl Fringe Caeredin, ar daith ar draws y DU a gartref yng Nghaerdydd.

Mae Iphigenia in Splott wedi cael ei chydnabod fel un o ddramâu newydd pwysicaf y tair blynedd diwethaf, gan ennill gwobr UK Theatre am y Ddrama Newydd Orau yn 2015 a Gwobr James Tait Black ar gyfer Drama yn 2016. 

Mae Sophie Melville yn ailadrodd ei pherfformiad clodwiw o Effie, merch ifanc sy’n talu pris mawr am ddiffygion cymdeithas.

Yn ddiweddar cafodd Sophie ei henwebu yng nghategori Actores Orau Gwobrau Theatre y London Evening Standard 2016 ochr yn ochr â Billie Piper, Helen McCrory a Noma Dumezweni.

Rhannu |