Mwy o Newyddion
Derwen Brimmon angen pleidleisiau i ennill teitl Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn
MAE coeden hynafol a arweiniodd at ddargyfeirio ffordd osgoi newydd Drenewydd rhai metrau er mwyn osgoi ei dinistrio, yn y ras i gael ei choroni yn Goeden Ewropeaidd y Flwyddyn.
Daeth Derwen Brimmon i’r brig yng nghystadlaethau Coeden Gymreig y Flwyddyn a Choeden Brydeinig y Flwyddyn a nawr mae’r hat-trig ar y gweill.
Coeden o Weriniaeth Siec sydd ar y blaen yn y bleidlais i ennill y prif dlws ar hyn o bryd gyda Derwen Brimmon yn agos ar ei sodlau.
Gellir bwrw eich pleidlais ar gyfer y goeden Gymreig ar y linc yma: http://www.treeoftheyear.org/ETY-2/Uvod.aspx?lang=en-IE
Trefnir y bleidlais rhwng 1-28 Chwefror. Mae’r pleidleisiau sy’n cael eu bwrw yn ystod yr wythnos olaf (22-28 Chwefror) yn gyfrinach.
Mae hyn yn golygu na fydd modd gweld ar y wefan faint o bleidleisiau y mae pob coeden wedi ei dderbyn.
Cyhoeddir y canlyniadau, a chyflwynir y wobr mewn seremoni ym Mrwsel ar 21 Mawrth.
Roedd Derwen Brimmon, gyda chylchfesur o dros 6m, yn y penawdau yn 2009 pan gyhoeddwyd cynlluniau i’w thorri i wneud lle ar gyfer ffordd osgoi’r Drenewydd.
Fe wrthwynebodd Mervyn Jones, y tirfeddiannwr, y cynlluniau gan fod ei deulu wedi gwerthfawrogi’r goeden ers cenedlaethau.
Wedyn, fe gytunodd y peirianwyr i symud y goeden, ond doedd Mr Jones ddim yn fodlon, gan y byddai hyn yn debyg o arwain at ei thranc.
Yna, cytunodd y peirianwyr i symud y llwybr ychydig, ond fe fyddai’n dal yn pasio o fewn 3.5m o’r goeden ac yn bygwth ei wreiddiau.
Felly, fe gomisiynodd Mr Jones adroddiad arbenigol ei hun a rhoi tystiolaeth yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus am ddwy awr.
Gyda chymorth yr ymgyrchydd coed Rob McBride, lansiodd ymgyrch Facebook i newid llwybr ffordd osgoi i achub y goeden.
Fel canlyniad, fe arwyddodd tua 5,000 o bobl ddeiseb i’r Cynulliad i’r perwyl hwn. Yn y pendraw, fe gytunodd Llywodraeth Cymru i amrywio’r llwybr dipyn bach mwy yn y gobaith o achub y goeden.
Llun: Y tirfeddiannwr Mervyn Jones gyda choeden Derwen Brimmon