Mwy o Newyddion
Galw am greu Banc Pobl Cymru
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod dyfodol bancio lleol heddiw wrth i Blaid Cymru gyflwyno cynnig swyddogol am ddadl.
Cafodd y symudiad gan ACau Plaid Cymru ei sbarduno gan y rownd ddiweddaraf o gau canghennau lleol a gyhoeddwyd gan HSBC sy’n effeithio ar bob rhan o Gymru.
Mae’r cynnig am y ddadl, a arweinir gan yr Aelodau Cynulliad Plaid Cymru Adam Price a Simon Thomas, yn galw ar Lywodraeth Cymru i "archwilio’r camau deddfwriaethol a rheolaethol angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru ar batrwm banc cynilo lleol."
Cynhelir y ddadl yn Siambr y Senedd y prynhawn yma.
Dywedodd Adam Price: "Fel y dywed ein cynnig, mae’n hanfodol bwysig i unigolion a busnesau ym mhob cymuned fynd yn rhwydd at gyngor ariannol a gwasanaethau bancio.
"Gwaetha’r modd, yr ydym yn gweld yr un broses ganoli gyda’r sector bancio preifat ag sy’n cael ei weld yn gynyddol yn y sector cyhoeddus.
"Mae Plaid Cymru yn cydnabod yr heriau enfawr sy’n dod yn sgil cau banciau lleol. Cafwyd peth llwyddiant o ran cynnwys y gwasanaethau bancio sydd ar gael dros gownteri’r swyddfeydd post, ond nid yw hyn yn gwneud iawn am y cyngor arbenigol na’r gwasanaethau bancio sydd yn ymddangos yn awr fel darpariaeth sydd wedi ei gadw’n unig i bobl mewn ardaloedd mwy trefol.
"Mae’n hen bryd cael ein dadl. Mae llawer o’n cymunedau wedi colli eu hunig fanc neu gymdeithas adeiladu. Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i wrthdroi’r duedd hon.
"Yn ein barn ni, credwn mai dyma’r amser i sefydlu Banc y Bobl - banc gwirioneddol gymunedol."
Ychwanegodd Simon Thomas: "Eleni, bydd banciau’r stryd fawr yn cau 36 o ganghennau yng Nghymru o Benllyn i Benfro hyd at Bowys.
"Mae Cymru wledig yn cael ei hamddifadu o’n canghennau banciau lleol.
"Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi lleisio pryderon am y diwylliant hwn o ganoli.
"Mae Plaid Cymru wedi gwrando, ac yn y ddadl seneddol hon, rydym yn cynnig gweledigaeth amgen o fancio nad yw’n gadael y cwsmeriaid ar ôl.
"Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i edrych ar y camau angenrheidiol i greu rhwydwaith o Fanciau’r Bobl.
"Byddai banc cyhoeddus Cymreig yn cydweithredu, nid yn cystadlu, gyda darparwyr ariannol eraill, gan gynnwys y Banc Datblygu Cymreig sydd ei fawr angen."
Llun: Adam Price