Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Chwefror 2017

Cerdd arbennig i daclo newid hinsawdd

Mae Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru wedi ysgrifennu cerdd arbennig ar gyfer ymgyrch clymblaid Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru; ‘Dangos y Cariad’.

Mae’r gerdd yn trafod tueddiad diweddar unigolion sydd mewn pŵer i wadu a diystyru yn gyhoeddus fod newid hinsawdd yn digwydd. Mae’r cyfnod hwn yn un cythryblus wrth ystyried y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Mae’r gerdd yn annog pobl i herio’r arweinwyr a’r bobl sy’n gwadu newid hinsawdd, er mwyn sicrhau dyfodol tegach i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Mae’r ymgyrch #DangosYCariad yn annog pobl i ddangos cariad at yr hyn y maent am ei amddiffyn rhag newid hinsawdd, yn ogystal ag annog pobl i rannu’r neges trwy ymuno a Thunderclap, a thrwy gymryd rhan mewn gweithgaredddau lleol.

Meddai Haf Elgar, Cadeirydd y glymblaid: “Mae newid hinsawdd yn mynd i effeithio’r llefydd ar pethau rydym ni’n eu caru, a rydym yn gyrru neges gryf ag unedig bod yn rhaid i ni amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol a lleihau ein allyriadau newid hinsawdd, er lles Cymru a’r blaned.

"Mae’n wych i gael Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, i ymuno â ni i ledaenu’r neges fod y wyddoniaeth yn glir; mae cynhesu byd eang yn digwydd nawr ac mae’n rhaid i ni ei daclo, yng Nghymru ac ar draws y byd.”

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn lysgennad diwylliannol ac yn rôl sy’n anrhydeddu rhai o’n hawduron mwyaf arloesol ac uchel eu parch. Gweinyddir y cynllun gan Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym yn hynod falch fod Ifor ap Glyn, fel Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi cael y cyfle i gyfrannu yn greadigol at ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth am rai o bryderon mwyaf ein cenedl heddiw, a galw arnom i arfogi’n hunain â ffeithiau.”

Llun: Ifor ap Glyn

Rhannu |