Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Chwefror 2017

Leanne Wood: Llafur yn cerdded ymaith oddi wrth ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi beirniadu’r Llywodraeth Lafur am ddirwyn eu rhaglen Cymunedau’n Gyntaf i ben heb ddarparu cynllun digonol yn ei le.

Roedd y Gweinidog Llafur Carl Sargeant wedi honni yn ystod ymgyrch etholiad blaenorol y buasai Plaid Cymru yn cau’r cynllun, gan ddweud y byddai’n “ddiogel yn unig gyda Llafur”.

Mewn datganiad yn y Cynulliad Cenedlaethol, cadarnhaodd y Gweinidog mewn gwirionedd fod Cymunedau’n Gyntaf yn cael ei ddirwyn i ben gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Wrth ymateb i’r datganiad, diolchodd Leanne Wood, AC y Rhondda ac arweinydd Plaid Cymru, i weithlu Cymunedau’n Gyntaf am eu cyfraniad, ond gan nodi na fu graddfa na chwmpas y rhaglen erioed yn ddigon mawr i wneud argraff sylweddol ar dlodi.

Aeth yn ei blaen i feirniadu’r llywodraeth am ddyrannu arian Cymunedau’n Gyntaf i gynlluniau oedd yn bod eisoes megis adeiladau cymunedol a ‘Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus’, nad ydynt yn swnio fel rhaglen wrthdlodi o unrhyw raddfa ystyrlon.

Meddai Leanne Wood: “Cyn hyn, cyhuddodd Llafur Plaid Cymru o gynllunio i gau Cymunedau’n Gyntaf. Ond mae’n digwydd dan eu goruchwyliaeth hwy.

“Rhaid troi’r ddadl yn awr tuag at yr hyn ddaw yn lle Cymunedau’n Gyntaf.

“Gawson ni ddim ateb digon da i hynny heddiw (14 Chwefror).

“O gofio ein bod yn siarad am rai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn Ewrop, doedd dim yn natganiad Llywodraeth Cymru heddiw yn dangos y brys sy’n angenrheidiol er mwyn i ni fynd i’r afael â thlodi.

“Y cyfan a gawsom yn y datganiad oedd ymrwymiad i roi arian i gynlluniau presennol sy’n eithaf bychan o ran gwerth ariannol. Mae cynlluniau fel adeiladau cymunedol i’w croesawu, ond nid ydynt yn ddigon mawr i wneud gwir wahaniaeth i dlodi.

“Mae Llafur yn cerdded ymaith o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf heb osod rhaglen wrthdlodi uchelgeisiol yn ei le.”

Her styfnig a chyson

Dywedodd Carl Sargeant bod perfformiad y cynllun wedi bod yn gymysg a bod "tlodi yn parhau yn her 'styfnig a chyson".

Ychwanegodd yr ysgrifennydd y byddai'r cynllun yn parhau i dderbyn cyllid ar 70% o'r lefel bresennol hyd at Fawrth 2018.

Rhannu |