Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Chwefror 2017

ASE i bleidleisio yn erbyn cytundeb masnach gyda Canada

Bydd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn pleidleisio yn erbyn CETA, sef yr enw a roddir ar y cytundeb rhwng yr UE a Canada, yn Senedd Ewrop yr wythnos hon.

Bydd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn pleidleisio ar y cytundeb masnach dadleuol yma ar Ddydd Mercher.

Cytundeb masnach rydd yw CETA (The Comprehensive Economic and Trade Agreement) ac fe gafodd ei negodi yn ystod y saith mlynedd diwethaf, yn y dirgel yn bennaf.

Mae angen i Senedd Ewrop gydsynio i hyn cyn y gellir ei weithredu, ac yna bydd angen ei gadarnhau gan seneddau aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd yn effeithio ar Gymru er bod y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, yn annerch Aelodau Seneddol yr wythnos hon.

Wrth egluro gwrthwynebiad ei phlaid, dywedodd Jill Evans ASE: "Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb gwael hwn fydd yn peryglu gweithwyr, defnyddwyr ac yn wir, democratiaeth Cymru.

"Bydd CETA yn tanseilio hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol.

"Mae’n achos o bryder arbennig i fi y bydd yn gwanhau ein cyfyngiadau ar organebau GM, o ystyried mai Canada yw’r trydydd cynhyrchydd mwyaf yn y byd o oranebau a addaswyd yn enetig.

"Yn ogystal â hyn, mae’r cymalau 'ratchet' a 'standstill' yn CETA yn peri pryder mawr gan fod rhain, am y tro cyntaf, yn sefydlu’r egwyddor na ellir gwyrdroi preifateiddio tra bo’r sector gyhoeddus yn agored i breifateiddio.

"Byddai hyn yn sefydlu llysoedd corfforaethol lle gallai cwmniau preifat ddirwyo llwyodraethau pe baen nhw’n cyflwyno cyfreithiau sydd yn amharu ar eu helw.

"Er gwaetha’r ffaith ein bod ar fin gadael yr UE, bydd CETA yn effeithio’n fawr ar Gymru.

"Os caiff CETA ei gadarnhau cyn bod y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr UE, byddai angen ailnegodi cytundeb masnach newydd rhwng y DG a Canada, ond byddwn yn parhau i fod yn rwymedig i’r elfen o ddarpariaeth gwarchod buddsoddwr sydd yn rhan o CETA am 20 mlynedd.

"Byddai hyn yn golygu fod gan fudsoddwyr tramor yr hawl o hyd i ddirwyo Llywodraethau Cymru a’r DG pe baen nhw’n credu fod eu busnesau wedi dioddef yn sgil unrhyw gyfreithiau neu reoliadau newydd.

"Ar ben hyn, mae David Davis, yr Ysgrifenydd Gwladol dros Adael yr UE , wedi galw CETA yn 'fan dechrau da' ar gyfer negodi cytundeb masnach rhwng y DG ac Ewrop, gan obeithio am hyd yn oed mwy o ddadreoleiddio wrth gwrs.

"Rwyf wedi derbyn nifer fawr o sylwadau a lobio gan etholwyr ar hyd y wlad sydd yn wrthwynebus iawn i CETA.

"Mae’n fargen wael sydd yn rhoi buddiannau busnesau mawrion o flaen y bobl a dylid ei wrthwynebu."

Llun: Jill Evans ASE

Rhannu |