Mwy o Newyddion
Arolwg yn awgrymu y byddai pleidleiswyr yng Nghymru o blaid cysylltu mewnfudo â manteision economaidd
Mae arolwg newydd wedi awgrymu y byddai'r rhan fwyaf o bleidleiswyr yng Nghymru o blaid polisi a fyddai'n cyfyngu ar fewnfudo oni bai ei fod yn helpu'r economi.
Yn ôl yr arolwg a gomisiynwyd gan Brifysgol Caerdydd cyn digwyddiad a gynhelir gyda Sefydliad Materion Cymreig, roedd 35% o'r rhai a holwyd yn credu mai dim ond mewnfudwyr medrus sy'n mynd i helpu'r economi ddylai gael symud yma.
Roedd 22% arall o blaid caniatáu mewnfudwyr a fyddai'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r economi, p'un ai ydynt yn fedrus ai peidio.
Daeth i'r amlwg hefyd yn yr arolwg fod gwahaniaeth barn rhwng y rhai a bleidleisiodd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a'r rhai oedd am adael.
Byddai 23% o'r rhai a bleidleisiodd dros adael o blaid gwahardd mewnfudo yn gyfan gwbl.
Dim ond 4% o'r rhai oedd yn gwrthwynebu Brexit sydd o blaid polisi o'r fath.
Dim ond 2% o'r rhai a bleidleisiodd dros adael oedd yn cefnogi polisi a fyddai'n caniatáu pob math o fewnfudo, ond roedd 23% o'r rhai a holwyd a bleidleisiodd dros aros o blaid y polisi hwn.
Yn gyffredinol, mae'r arolwg yn dangos fod gwahaniaeth barn o hyd ynghylch effaith gadarnhaol neu negyddol mewnfudo yng Nghymru.
Roedd 30% o'r rhai a holwyd yn credu ei fod wedi cael effaith negyddol, tra bod 25% o'r farn ei fod wedi cael effaith gadarnhaol.
Nid oedd gan tua un o bob tri o'r rhai a holwyd (33%) yn credu bod mewnfudo wedi bod yn dda nac yn ddrwg i Gymru.
Unwaith eto, roedd cryn wahaniaeth barn rhwng y rhai oedd o blaid Brexit neu'n ei erbyn.
Ymhlith y rhai a holwyd, roedd bron hanner (48%) y rhai oedd am aros yn yr UE yn credu bod mewnfudo yn beth da i Gymru, o'i gymharu â dim ond 7% o'r rhai a bleidleisiodd dros adael.
Yn yr un modd, honnodd 45% o'r rhai oedd o blaid gadael bod mewnfudo wedi bod yn beth gwael i Gymru, o gymharu â 12% ymhlith y rhai a bleidleisiodd o blaid aros.
Daw'r canfyddiadau hyn i'r amlwg ychydig wythnosau cyn bwriad y Prif Weinidog Theresa May AS i ddechrau'r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r arolwg hefyd yn dangos mai cael rheolaeth lawn dros ffiniau'r DU oedd yr ymateb mwyaf poblogaidd (47%) o gymharu â dim ond 26% oedd yn blaenoriaethu masnachu â'r UE yn ddirwystr.
Dywedodd yr Athro Roger Scully, cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, am yr arolwg: "Gwyddwn fod y dadleuon ynghylch rheoli ffiniau'r DU wedi bod yn rhan bwysig o'r drafodaeth cyn y refferendwm yr UE ym mis Mehefin, ac mae'r ffaith fod y Prif Weinidog am flaenoriaethu mewnfudo yn y trafodaethau a gaiff eu cynnal ynghylch Brexit, yn adlewyrchiad o hynny.
"Efallai bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr yng Nghymru o blaid polisi a fyddai'n cyfyngu ar fewnfudo oni bai ei fod yn helpu'r economi, ond nid ydyn nhw'n cytuno ynghylch sut y dylai hyn weithio yn ymarferol.
“Er gwaethaf ymdrechion y gwleidyddion i alw am undod, mae'r ymchwil yn awgrymu hefyd mai prin fu'r newid mewn agweddau ar y naill ochr neu'r llall ers mis Mehefin y llynedd.
"Yn ôl pob golwg, bydd yr hyn sydd orau gan bleidleiswyr o safbwynt mewnfudo yn parhau i gael ei lywio gan y patrymau pleidleisio a ddaeth i'r amlwg yn y refferendwm.
"Yr her sy'n wynebu'r Prif Weinidog yw ceisio cael cytundeb ymarferol ac sy'n ystyried yr holl agweddau cymhleth tuag at fewnfudo - yma yng Nghymru ac yn y DU."