Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Chwefror 2017

Ethol Esgob newydd Llandaf

Caiff drysau Cadeirlan Llandaf eu cau am hyd at dridiau yr wythnos nesaf pan etholir esgob newydd i'r esgobaeth gyda'r boblogaeth fwyaf yng Nghymru.

Bydd coleg etholiadol o 47 o bobl o bob rhan o Gymru, yn cynnwys holl esgobion Cymru yn cwrdd tu mewn i enwebu a phleidleisio ar restr gyfrinachol o ymgeiswyr ar gyfer Esgob nesaf Llandaf.

Mae'r etholiad yn dilyn ymddeoliad Dr Barry Morgan ar ddiwedd mis Ionawr, ar ôl gwasanaethu fel Esgob Llandaf yn ogystal ag Archesgob Cymru. Yr esgob newydd fydd 72fed Esgob Llandaf, esgobaeth sy'n gwasanaethu bron hanner poblogaeth Cymru gan ei bod yn cynnwys y rhan fwyaf o Gaerdydd, Cymoedd De Cymru a Bro Morgannwg.

Mae’r Coleg Etholiadol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r chwech esgobaeth yng Nghymru. Cynrychiolir yr esgobaeth “gartref” gan chwech o leygion a chwech o glerigion, a’r pum esgobaeth arall gan dri o leygion a thri o glerigion yr un, ynghyd â’r pum Esgob arall.

Mae trafodaethau’r Coleg Etholiadol yn gyfrinachol. Enwebir yr ymgeiswyr yn y cyfarfod. Fe’u trafodir a chynhelir pleidlais. Cyhoeddir yn Ddarpar Esgob yr ymgeisydd sy’n derbyn dau-draean pleidleisiau’r rhai sy’n bresennol. Fel arall, mae’r Coleg yn dychwelyd i’r cam enwebu a’r cylch yn dechrau o’r newydd.  Unwaith y gwneir penderfyniad, caiff y Gadeirlan ei datgloi a gwneir cyhoeddiad wrth y drws gorllewinol.

Gall y Coleg gwrdd am hyd at dridiau yn olynol i ddod i benderfyniad; os yw’n methu gwneud hynny o fewn yr amserlen hon bydd y penderfyniad yn mynd i Fainc yr Esgobion.

Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo ef neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd. Os yw'n derbyn, caiff yr etholiad ei gadarnhau'n ffurfiol ym mis Ebrill.

Bydd cyfarfod y Coleg Etholiadol yn dechrau ar 21 Chwefror gyda dathliad o'r Ewcarist Bendigaid gyda chroeso i bawb. Yn dilyn hynny bydd y Coleg Etholiadol yn cwrdd yn breifat a bydd y Gadeirlan ar glo.

Rhannu |