Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Chwefror 2017

Statws gwarchodedig i borc Cymreig pedigri wedi'i fagu'n draddodiadol

Mae enw da diwydiant bwyd a diod Cymru sy’n parhau i ffynnu wedi derbyn hwb pellach yn sgil y ffaith bod yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi statws newydd i Borc Cymreig Pedigri wedi’i Fagu’n Draddodiadol.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi Statws Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG) i Borc o Foch Cymreig Pedigri sydd wedi’u magu’n draddodiadol.

Mae nifer o gynhyrchion Cymreig wedi llwyddo i gyflawni statws gwarchodedig yr UE.

Yn eu mysg y mae Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Oen a Chig Eidion Cymreig, Enw Tarddiad Gwarchodedig Halen Môn, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Tatws Newydd Cynnar Sir Benfro, Cregyn Gleision Conwy, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Ham Caerfyrddin a Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ac Enw Tarddiad Gwarchodedig Gwin Cymreig.

Yn wahanol i fwydydd ag iddynt ddynodiad daearyddol gwarchodedig, mae modd i Borc Cymreig Pedigri gael ei gynhyrchu unrhyw le yn Ewrop, cyn belled â bod yr anifeiliaid yn rhai pedigri a’u bod wedi’u cofrestru â Chymdeithas Moch Prydain neu gymdeithas debyg ar gyfer y brid.

Caiff ceidwaid moch sy’n defnyddio’r dynodiad TSG eu hannog i ddod yn aelodau o’r Gymdeithas Moch Cymreig Pedigri.

Bydd modd i’r Gymdeithas hon gynnig cymorth a chefnogaeth er mwyn sicrhau bod moch yn cael eu magu yn unol â’r dulliau traddodiadol, a chan gadw at safonau uchel o ran hwsmonaeth.

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y cyhoeddiad.

Dywedodd: “Hoffwn longyfarch y Gymdeithas Moch Cymreig Pedigri ar fod y cyntaf yng Nghymru i ennill Statws Gwarant Arbenigedd Traddodiadol yr UE.

"Mae’n tystio i’r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod - fod Cymru’n cynhyrchu bwyd a diod o’r radd flaenaf.

"Mae enwau mwy a mwy o’n cynhyrchion yn cael eu gwarchod - sy’n cydnabod ymroddiad ein cynhyrchwyr o safbwynt sicrhau ansawdd eu cynnyrch.

"Golyga’r statws fod cynhyrchion yn cael eu gwarchod o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.”

Ychwanegodd Bob Stevenson, Cadeirydd Cymdeithas Moch Cymreig Pedigri a milfeddyg moch amlwg: “Gall defnyddwyr deimlo’n gwbl hyderus yn awr wrth brynu porc Cymreig pedigri wedi’i fagu’n draddodiadol a gallant deimlo’n gwbl hyderus fod y cig wedi’i gynhyrchu mewn modd sy’n rhoi blaenoriaeth i lesiant yr anifail gydol ei fywyd.”

Dywedodd Melanie Cargill, cynrychiolydd menter newydd sy’n ceisio datblygu’r diwydiant moch yng Nghymru “Mae’n glod arbennig i frid moch cynhenid Cymru a bydd yn sicr yn helpu i godi proffil porc Cymreig ymhellach. Mae siopwyr bellach yn dymuno cael sicrwydd ynghylch tarddiad y bwydydd y maent yn eu prynu ac mae’r statws hwn yn rhoi sicrwydd ychwanegol iddynt.

“Dim ond tri o gynhyrchion o fewn y DU sydd â Statws Gwarant Arbenigedd Traddodiadol. Mae hyn yn tystio i natur unigryw moch Cymreig.”

Pwysleisiodd Lesley Griffiths yn ogystal y ffaith bod Llywodraeth Cymru’n awyddus i sicrhau bod enwau bwydydd gwarchodedig yn parhau i gael eu cydnabod ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd: “Rydym yn cydweithio’n agos â Defra, sy’n gyswllt â’r UE, er mwyn sicrhau dyfodol i enwau bwydydd gwarchodedig ar ôl i ni adael.

"Mae gan wledydd eraill nad ydynt yn rhan o’r Undeb enwau bwydydd gwarchodedig ac mae hynny’n gosod cynsail i’r DU ar gyfer ystyried cynllun tebyg yn y dyfodol.” 

Rhannu |