Mwy o Newyddion
200 o bobl ifanc i ddod i gynhadledd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth flynyddol
Bydd dros 200 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru yn dod i Gynhadledd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth flynyddol y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher ac Iau yr wythnos yma.
Bydd myfyrwyr ysgolion a cholegau Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Abertawe, Caerdydd a Gwent yn ymweld yn ystod y ddau ddiwrnod ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar Brexit a phobl ifanc mewn gwleidyddiaeth, a bydd gweithdai i drafod sut y mae'r Cynulliad yn deddfu.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal gan Lywydd Cynulliad, Elin Jones AC, a bydd yn agor gyda sesiwn holi ac ateb.
Mae ennyn diddordeb pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad yn rhan annatod o strategaeth Comisiwn y Cynulliad dros y pum mlynedd nesaf ac un o’i ymrwymiadau allweddol yw sefydlu senedd ieuenctid newydd i Gymru.
Oherwydd bod y gynhadledd mor boblogaidd, eleni, cynhelir dwy gynhadledd ar wahân gan gyflwyno’r un rhaglen ar y ddau ddiwrnod.
"O gofio bod mwy a mwy o gyfrifoldebau’n cael eu datganoli i Gymru, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn deall ac yn cyfrannu at y penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu dyfodol," meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Dyna pam mae’n hanfodol ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a sicrhau eu bod yn cyfranogi. Mae sefydlu senedd ieuenctid Cymru yn rhan allweddol o'n strategaeth ar gyfer y Cynulliad hwn.
"Rwy'n edrych ymlaen at groesawu pawb i Siambr Hywel ar gyfer y gynhadledd eleni."
Bydd myfyrwyr o’r canolfannau a ganlyn yn bresennol ar y dydd Mercher: Ysgol Gyfun Croesyceiliog (Cwmbrân), Ysgol Howells (Caerdydd), Ysgol Uwchradd Llanisien (Caerdydd), Ysgol Bro Myrddin (Sir Gaerfyrddin), Coleg Gwent, Ysgol Gyfun Radur (Caerdydd) ac Ysgol Brenin Harri'r VIII (Y Fenni).
Ar y dydd Iau: Ysgol Alun (Sir y Fflint), Coleg Gwent (campws Cross Keys a Blaenau Gwent), Coleg Gŵyr (Abertawe), Ysgol Gyfun St Cyres (Penarth) ac Ysgol Esgob Llandaf (Caerdydd).
Llun: Elin Jones