Mwy o Newyddion
Mynydd rhy uchel i’w ddringo
CYHOEDDWYD na fydd Connie Fisher yn gallu dychwelyd i chwarae rôl Maria yn nhaith ‘The Sound of Music’, gan gynnwys perfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ddiweddarach yn y mis.
Mae Connie Fisher wedi bod yn dioddef o gyflwr lleisiol sydd wedi effeithio ar ei llais canu. Er gwaethaf hyfforddiant a therapi dwys, nid yw ei llais wedi gwella’n ddigonol iddi fynd i’r afael â gofynion y rôl Maria.
Dywedodd Connie Fisher: “Ar ôl sawl mis o frwydro yn erbyn cyflwr lleisiol o’r enw congenital sulcus vocalis, mae fy ystod lleisiol wedi newid yn fawr iawn ac, er mawr ofid i mi, mae’n rhaid i mi dynnu’n ôl o ‘The Sound of Music’ gan nad yw’r ystod gennyf i ganu rhan Maria bellach.
“Mae fy nhaith gyda’r sioe anhygoel yma wedi bod mor hudolus ac mae’n siom enfawr i mi nad wyf yn gallu perfformio hyd ddiwedd y daith.
“Rwyf wedi gwirioni ar bob munud o weithio gydag Andrew Lloyd Webber, David Ian a chast a chriw ‘The Sound of Music’ ac mae’n flin gennyf na allaf fod gyda nhw tan y perfformiad olaf.’
Yn hytrach, bydd Verity Rushworth yn perfformio rôl Maria. Mae hi eisoes wedi chwarae’r rhan ar daith ‘The Sound of Music’.
Mae Verity fwyaf adnabyddus i wylwyr teledu fel Donna Windsor yn ‘Emmerdale’ ITV1 mwy na thebyg – bu hi’n chwarae’r rhan am 11 mlynedd. Ymhlith ei gwaith theatr yn y West End mae hi wedi chware’r cymeriad Penny Pingleton yn ‘Hairspray’.
Bydd Jason Donovan yn parhau i chwarae rôl Captain Von Trapp yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac mae disgwyl y bydd yn ymddangos ym mhob perfformiad, yn amodol bob amser ar salwch a gwyliau.
? Mae ‘The Sound of Music’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 23 Awst – 3 Medi 2011. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464 neu ewch i www.yganolfan.org.uk