Mwy o Newyddion
Caru Darllen? Lansio teitlau Stori Sydyn ar Ddydd San Ffolant
Mae cymaint ag un oedolyn ym mhob chwech yn cael trafferth gyda darllen, ac un o brif amcanion y gyfres Stori Sydyn yw annog y darllenwyr anfoddog hynny i afael mewn llyfr a rhoi cynnig arno.
Y llyfrau byr ond hynod ddifyr hyn yw’r ffordd berffaith i gwympo mewn cariad â darllen.
Bydd teitlau Stori Sydyn 2017 yng Nghymru, a gyhoeddir gan Accent Press a Gwasg y Lolfa, yn cael eu lansio’n swyddogol gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn adeilad y Senedd heddiw am 13:00.
Eleni, cyhoeddir pedwar teitl newydd fel rhan o’r cynllun – dau yn Gymraeg a dau yn Saesneg.
Maen nhw’n amrywiol iawn o ran thema, o’r olygfa rhwng pyst y gôl gan Owain Fôn Williams, y pêl-droediwr poblogaidd o Gymro; byd peryglus a sinistr y stelciwr ar-lein; antur ym mynyddoedd y Dwyrain Canol, i hanes taith anhygoel un ci synhwyro milwrol o Afghanistan i’w gartref newydd.
Nod ymgyrch Stori Sydyn yw dileu’r rhwystrau a chael pobl Cymru i fwynhau darllen trwy gynhyrchu llyfrau byr, gafaelgar sydd ar gael o lyfrgelloedd, siopau llyfrau ac ar-lein am ddim ond £1 yr un.
Bydd teitlau 2017 ar gael o ddechrau mis Chwefror: Rhwng y Pyst – Owain Fôn Williams a Lynn Davies; Y Stelciwr – Manon Steffan Ros; Stargazers – Phil Carradice; a Gun Shy – Angie McDonnell ac Alison Stokes.
Dywedodd Angharad Wyn Sinclair, ar ran Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ystod o deitlau sydd ar gael eleni, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â’n partneriaid dros y misoedd nesaf i sicrhau bod y llyfrau newydd yn cyrraedd ein cynulleidfaoedd targed.
"Ysgrifennwyd llyfrau Stori Sydyn yn y fath fodd fel eu bod yn hygyrch i bawb.
"Maen nhw’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n awyddus i fod yn ddarllenwyr mwy hyderus, ond hefyd yn addas ar gyfer unrhyw un sydd am ddianc am ychydig amser o’i fywyd prysur!
"Trwy fabwysiadu dull ‘un cam ar y tro’ o ddarllen, ein nod yw goresgyn problemau diffyg hyder, a dangos bod darllen yn gallu bod yn weithgaredd llawn hwyl ac ysbrydoliaeth i bawb.”