Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Chwefror 2017

Lansio gwasanaeth ATM newydd i Flaenau Ffestiniog

Ymunodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts â chynrychiolwyr o Co-Op ddoe ynghyd a chynghorwyr lleol i lansio ATM pedair awr ar hugain ym Mlaenau Ffestiniog, yn dilyn ymgyrch i wella gwasanaethau ariannol yn y dref.

Mae’r peiriant arian allanol sy’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio dan reolaeth Cardtronics UK, ac wedi ei leoli tu allan i’r Co-Op. Bydd y gwasanaeth yn annibynnol o oriau agor busnes.

Mae'r AS lleol, ynghyd a chynghorwyr ac aelodau o'r gymuned wedi bod yn ymladd i wella cyfleusterau ariannol ym Mlaenau Ffestiniog yn sgil penderfyniad HSBC i gau banc olaf y dref ym mis Medi, er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig gan y gymuned leol.

Dywedodd Liz Saville Roberts: “Hoffwn estyn fy niolch i Co-Op a Cardtronics am gamu i mewn i helpu cymuned Blaenau Ffestiniog yn dilyn penderfyniad HSBC i gau banc olaf y dref ym mis Medi.

“Mewn cymuned gyda phoblogaeth o bron i bum mil ynghyd â diwydiant twristiaeth sy'n datblygu'n gyflym, mae'n gwbl hanfodol fod pobl yn gallu tynnu arian pan fo'n gyfleus.

“Bydd y ATM 24 awr ychwanegol yma, a wnaed yn bosib trwy gydweithrediad agos â Co-Op a Cardtronics o gymorth mawr i bobl lleol gael mynediad i arian parod fel bo’r angen.

“Ers penderfyniad HSBC i gael gwared ar eu gwasanaethau yn y dref, dwi wedi bod yn gweithio i sicrhau bod pobl Blaenau yn gallu parhau i gael gafael ar wasanaethau ariannol.

“Felly dwi'n falch fod datrysiad wedi'i ganfod a diolch i’r Co-Op a Cardtronics am ymgysylltu mor gadarnhaol â'r gymuned leol.”

Ychwanegodd y Cynghorwyr Mandy Williams-Davies ac Annwen Daniels: “Nid oes curo ar ddelio gyda phobl leol yn eich cangen leol wrth ymdrin â gwasanaethau ariannol, fel sefydliad y banc.

"Yn anffodus, mae’r ddadl honno wedi pasio, felly dyma’r ail opsiwn sydd ar gael i ni fel trigolion Blaenau.

“Rydym fel tîm Plaid Cymru wedi gweithio’n ddi-flino gyda chynrychiolwyr y banc a phartneriaid lleol i geisio dod â gwasanaethau eraill i’r dref er mwyn ceisio hwyluso trafodion ariannol pobl leol.

“Rydym yn ddiolchgar i’r Co-op am gynnig y gwasanaeth newydd twll yn y wal yma, ac yn gobeithio y daw ag ychydig o gymorth i unigolion a busnesau’r dref.

“Fel Plaid, rydym yn parhau i bwyso am newid i’r ddeddf fyddai’n diogelu trefi eraill rhag mynd drwy’r un poen ag y mae tref Blaenau Ffestiniog wedi ei wneud, wrth i’r banc olaf ymadael â’r dref.”

Llun: Cyng Mandy Williams-Davies, Liz Saville Roberts AS, Peter Hale (CashZone), David Hughes (Rheolwr Co-Op Blaenau), James Lowe(Co-Op) a Cyng Annwen Daniels

Rhannu |