Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Chwefror 2017

Dim ond pythefnos ar ôl i enwebu aelodau i'r Orsedd

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad mawr yn gymunedol neu’n genedlaethol?

A hoffech chi weld rhywun yn derbyn anrhydedd gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn?

Dim ond pythefnos sydd i fynd cyn y dyddiad cau, 28 Chwefror, felly mae’r rhaid brysio os ydych chi am weld rhywun yn cael ei urddo eleni. 

Mae’r manylion i gyd ar wefan yr Eisteddfod, http://www.eisteddfod.cymru/enwebu

Dim ond aelodau o’r Orsedd all enwebu ac eilio unigolion i’w hystyried i gael eu hanrhydeddu, ac mae’n rhaid i’r sawl sy’n cael ei gynnig fod yn gallu siarad Cymraeg.

Meddai Cofiadur yr Orsedd, Penri Tanat: “Mae Gorsedd y Beirdd yn anrhydeddu unigolion sydd yn haeddu cael eu cydnabod am eu cyfraniad mewn gwahanol feysydd yn flynyddol. 

"Dyma ein ffordd ni yng Nghymru i ddangos ein cydnabyddiaeth am ymroddiad i’n gwlad a’n diwylliant ym mhob rhan o’r wlad.

“Bydd enwau’r rheiny sy’n cael eu henwebu yn mynd gerbron Panel Urddau’r Orsedd yn y gwanwyn, a’r cyhoeddiad yn cael ei wneud ddechrau mis Mai.

"Bydd yr unigolion llwyddiannus yn cael eu hurddo i’r Orsedd ar Faes yr Eisteddfod yn Ynys Môn fis Awst.

“Felly, os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad allweddol i’r diwylliant Cymraeg yn lleol yn eu cymuned, neu yn genedlaethol, mae angen symud ar fyrder, gan fod y dyddiad cau’n prysur agosau.

"Gobeithio’n arw y cawn nifer dda o enwebiadau ar gyfer yr Eisteddfod ym Môn.”

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, bydd pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.

Bydd pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Bydd y rheiny sy’n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd - Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl. 

Bydd y rhai sy’n cyfrannu i’r celfyddydau yn mynd i’r Wisg Werdd, gan gynnwys enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Mae modd i’r rheiny sy’n sefyll arholiad yr Orsedd neu sydd wedi astudio cwrs gradd mewn unrhyw bwnc yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg gael eu hurddo ar sail eu gradd, ynghyd â’r rheiny sydd wedi dilyn cwrs gradd mewn cerddoriaeth.

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n cael ei urddo i’r Orsedd ddod yn aelod o Lys yr Eisteddfod.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Gellir lawr lwytho’r ffurflen enwebu o’r wefan.  Mae manylion y meysydd llafur ar gyfer arholiadau’r Orsedd hefyd i’w cael ar-lein. 1 Mawrth yw’r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer yr arholiadau.

Rhannu |