Mwy o Newyddion
Cynyddu llecynnau parcio ar odrau’r Wyddfa
ER mwyn sicrhau mwy o le i barcio ceir ar lan Llyn Cwellyn, mae contractwyr wrthi yn gweithio ar gynllun o ail ddylunio ym maes parcio Llyn Cwellyn .
Ar hyn o bryd, mae modd parcio hyd at 37 o gerbydau ym maes parcio Llyn Cwellyn, sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Ond wedi’r gwaith datblygu fydd yn cymryd chwe wythnos i’w gwblhau, bydd 61 o lefydd parcio ar gael.
Mae’r maes parcio ar hyn o bryd yn adnodd pwysig ar gyfer cerddwyr sydd am ddilyn Llwybr Cwellyn ar yr Wyddfa, yn ogystal â rhai hynny sy’n mwynhau mynd ar hyd llwybr hygyrch Ianws i lan y llyn.
Edward Jones yw Rheolwr Eiddo’r Awdurdod ac mae’n esbonio ymhellach: “Nid yn unig fod y maes parcio wedi cynyddu yn ei boblogrwydd i gerddwyr sy’n dymuno cerdded i fyny’r Wyddfa, ond mae’r gwaith diweddar o wella ac ymestyn llwybr pren Ianws hefyd wedi cyfrannu at brysurdeb y maes parcio.
“Mynegwyd pryder gan nifer o gyrff, gan gynnwys Cyngor Cymuned Bro Garmon, am ddiogelwch ar y ffordd, yn enwedig ar gyfnodau brig pan oedd ceir yn parcio ar fin y ffordd.
“Mae’r cynllun newydd hwn yn golygu y bydd cynhwysedd y maes parcio bron â dyblu ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y grant cyfalaf i’n galluogi i weithredu’r cynllun.
“Wedi ei gwblhau, bydd y gwaith hwn yn gyfraniad gwerthfawr tuag at liniaru heriau parcio o gwmpas godrau’r Wyddfa. ”
Cwmni Dobson Owen o Bwllheli yw’r penseiri a chwmni Gwilym James o Drawsfynydd a benodwyd fel contractwyr ac maent am sicrhau y bydd rhan o’r maes parcio yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod datblygu i gynnig nifer cyfyngedig o lecynnau.
Llun: Llyn Cwellyn