Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Chwefror 2017

Cymraes yn cyrraedd rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas

MAE’R Gymraes, Alys Conran, ymhlith 12 awdur sydd wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

Caiff y wobr o £30,000 ei dyfarnu i’r darn gorau o waith wedi’i gyhoeddi’n Saesneg, sydd wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 mlwydd oed neu iau.

Lansiwyd y wobr yn 2006, a bwriad y wobr yw cydnabod a chefnogi awduron mawr y dyfodol yn ogystal â chydnabod etifeddiaeth Dylan Thomas, a ysgrifennodd y rhan fwyaf o’i waith gorau tra yn ei ugeiniau.

Eleni, mae’r rhestr hir yn cynnwys: chwe nofel, pedwar casgliad o straeon byrion, a dwy gyfrol o farddoniaeth.

Mae un o’r llyfrau ar y rhestr fer eisoes wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones 2016, a dau arall ymhlith gwerthwyr gorau’r New York Times.

Mae Alys Conran, sy’n ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor, yn ymuno ag awduron o Ghana, Jamaica, yr Unol Daleithiau, Sri Lanka, Awstralia a Lloegr ar y rhestr hir wrth iddynt gystadlu am y wobr o £30,000.

Rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2017:

• Anuk Arudpragasm – The Story of a Brief Marriage (Granta)

• Alys Conran – Pigeon (Parthian)

• Jonathan Safran Foer – Here I Am (Farrar, Straus & Giroux)

• Yaa Gyasi – Homegoing (Alfred A Knopf)

• Benjamin Hale – The Fat Artist and Other Stories (Picador)

• Luke Kennard – Cain (Penned in the Margins)

• Hannah Kohler – The Outside Lands (Picador)

• Fiona McFarlane – The High Places (Farrar, Straus & Giroux)

• Helen Oyeyemi – What is Not Yours is Not Yours (Picador)

• Sarah Perry – The Essex Serpent (Serpents Tail)

• Safiya Sinclair – Cannibal (University of Nebraska Press)

• Callan Wink – Dog Run Moon: Stories (Granta)

Rhyddhawyd Pigeon, nofel gyntaf Alys Conran, y llynedd. Cafodd Pijin, y feriswn Gymraeg o’r nofel, ei haddasu gan Sian Northey. Cyhoeddir y ddwy nofel gan Parthian.
Max Porter enillodd y wobr y llynedd, a hynny am ei lyfr Grief is the Thing with Feathers.

Aeth y llyfr ymlaen i gipio Gwobr Ysgrifennydd Ifanc The Sunday Times.

Meddai’r Athro John Spurr, pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r rhestr hir yn mynd tu hwnt i bob disgwyliad yn ei ystod o genres ac ansawdd syfrdanol yr ysgrifennu – a hynny gan awduron ledled y byd.

“Yr unig sicrwydd ar hyn o bryd yw y bydd gan y beirniaid  rhestr fer eithriadol o gryf yn y pen draw, gyda chwe awdur dawnus tu hwnt.”

Yr hanesydd a’r awdur Dai Smith sy’n cadeirio’r panel beirniadu eleni, sydd hefyd yn cynnwys: Kurt Heinzelman (bardd ac ysgolhaig); Alison Hindell (Pennaeth Drama Sain DU i’r BBC); Sarah Moss (nofelydd ac ysgolhaig), a Prajwal Parajuly (awdur).

Cyhoeddir rhestr fer y wobr ddiwedd mis Mawrth.

Datgelir yr enillydd mewn seremoni arbennig yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ar ddydd Mercher, 10 Mai.

Llun: Alys Conran

Rhannu |