Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Chwefror 2017

Mererid Hopwood ar daith dwyieithrwydd

Dwyieithrwydd ac adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm addysg fydd pwnc Darlith Goffa Syr Hugh Owen a draddodir gan yr ieithydd, yr awdur a’r prifardd Mererid Hopwood.

Teitl y ddarlith yw ‘Curo’n hyderus ar y drws tri-enw: golwg ar le’r Gymraeg yn adolygiad Donaldson’, ac mae croeso i bawb.  Traddodir y ddarlith yn Gymraeg, a chyflwynir y darlithydd gan yr Athro Enlli Thomas, Pennaeth yr Ysgol Addysg yn y Brifysgol.

Bydd yr Athro Hopwood yn trafod Dyfodol Llwyddiannus, sef yr adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru a gynhaliwyd yn ddiweddar gan yr Athro Graham Donaldson, a bydd yn archwilio’r potensial sydd i’r Gymraeg chwarae rhan allweddol y tu hwnt i’r ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ a ddisgrifiwyd ganddo. 

Gan feddwl am nod o ‘filiwn o siaradwyr Cymraeg’, bydd yr Athro Hopwood yn ystyried pa fath o newidiadau cadarnhaol y gellid eu gwneud trwy fabwysiadu dull gweithredu mwy hollgynhwysol at ieithoedd mewn ysgolion yng Nghymru.

Bydd yn edrych ar ddwyieithrwydd fel cyfrwng a all gynorthwyo’n sylweddol i gyflawni pedwar diben craidd y cwricwlwm newydd, a bydd yn gofyn beth mae bod ‘ar daith dwyieithrwydd’ yn ei olygu.

Mae gan Mererid Hopwood Gadair yn y Gyfadran Addysg a Chymunedau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. 

Mae wedi ennill y Gadair a’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol am farddoni yn ogystal ag ennill y Fedal Ryddiaith.

Bu yn Fardd Plant Cymru ac mae wedi ennill Gwobr Glyndŵr am ei chyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru.  Daeth ei chasgliad o gerddi Nes Draw i’r brig yn adran farddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2016. 

Cynhelir y ddarlith ym Mhrifysgol Bangor ar nos Fercher 22 Chwefror am 6pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau

Rhannu |