Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Chwefror 2017

Cariad at Gig Eidion Cymru yn Llundain

Gyda diwrnod San Ffolant yn nesáu, mae pen-cogyddion uchel eu parch wedi cwympo mewn cariad efo Cig Eidion Cymru ers mynychu digwyddiad arbennig i hyrwyddo bwydydd arbennig yn Llundain.

Daeth dros 30 o gogyddion profiadol o’r sector arlwyo cosmopolitanaidd ynghyd i fwynhau blasau’r cinio 7-cwrs a oedd yn cynnwys saig cig eidion coeth; ffolen Cig Eidion Cymru gyda choes las wedi’i brwysio, gyda garlleg gwyllt ac wedi’i fygu.

Yn ystod y pryd, fe wnaeth Sue Franklin, Swyddog Gweithredol Datblygu Marchnad y DU yn Hybu Cig Cymru (HCC) annerch y dorf o gogyddion proffesiynol o safon uchel ar Gig Eidion Cymru; sut mae’n cael ei gynhyrchu mewn amgylchedd naturiol gan ffermwyr ymroddedig sy’n defnyddio technegau traddodiadol. Soniodd hefyd am arwyddocâd ei statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) - marc ansawdd sy’n cynnal a diogelu cynnyrch sy’n unigryw i’w tirwedd, ac sy’n eu gwarchod rhag cael eu hefelychu.

Meddai Sue: “Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan gyflenwyr bwyd Direct Meats, yn gyfle gwych i hyrwyddo Cig Eidion Cymru ar fwydlen oedd yn cynnwys dim ond y cynnyrch gorau.

"Roedd y cyfle i drafod y seigiau rhwng y cyrsiau a sgwrsio gyda’r cynhyrchwyr a’r cyflenwyr yn amhrisiadwy - roedd yn debyg iawn i brofiad 'speed-dating!'

“Roedd y cariad at Gig Eidion Cymru i’w deimlo o amgylch yr ystafell, roedd o mor dyner ac yn llawn blas, wedi’i goginio’n berffaith. Creodd argraff ar y cogyddion ac rydym yn obeithiol y bydd yn arwain at gynnydd mewn gwerthiant i sefydliadau gwasanaeth bwyd gorau Llundain.”

Mae sector tai-bwyta’r DU wedi ffynnu yn y blynyddoedd diweddaraf. Yn 2015, gwariodd Brydeinwyr gyfanswm o £52.2bn ar fwyta allan (www.bighospitality.co.uk) ac mae astudiaeth gan NPD Group wedi rhagweld y bydd y ffigwr yn cynyddu i tua £54.7bn erbyn y flwyddyn hon. 

Llun: Y pryd o Gig Eidion Cymru

Rhannu |