Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Awst 2011

Newid enw ar ôl yr Eisteddfod

MAE cyfarwyddwr artistic Red Button Theatre, David Williams wedi Cymreigio ei enw i Dafydd Williams ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar Fro.

“Roedd o fel dod nôl gartref,” meddai. “Roedd y profiad o gael llwyfannu fy monolog ‘Na’d fi’n Angof’ yn Theatr y Maes gan Sherman Cymru ar y dydd Llun yn odidog.”

Yn cael ei pherfformio gan Wyn Bowen Harries a’i chyfarwyddo gan Griffith Jones, mae’r fonolog yn sôn am berthynas cyn filwr o Wrecsam â’i dad sydd yn dioddef o glefyd Alzheimer’s.

“Mae Wrecsam yn golygu llawer o atgofion melys i mi fel cyn-ddisgybl yn Ysgol Bodhyfryd ar ddechrau’r 1970au,” ychwanegodd Dafydd Williams. “Yn y fan honno teimlais fy Nghymreictod fwyaf.”

Rŵan, mae Dafydd yn bwriadu codi arian i Gymdeithas Alzheimer’s gan gerdded marathon o Gôr y Cewri i Avebury, ar ddydd Sul, Medi 11.

“Ar ôl y profiad ysbrydol yn Wrecsam teimlaf fy mod i wedi cael fy ail eni, gydag enw newydd.

“Fy nod ydi codi £500 i’r Gymdeithas i ariannu ymchwil i’r cyflwr creulon yma.”

? I gefnogi Dafydd ewch i’r wefan www.justgiving.com/Dafydd-Williams

Rhannu |