Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Chwefror 2017

Cabinet i drafod Campws Dysgu Y Bala

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cwrdd ddydd Mawrth, 14 Chwefror i ystyried os dylid ail ymweld â’r penderfyniad i sefydlu Campws Dysgu 3-19 yn nhref Y Bala ar y cyd gyda’r Eglwys yng Nghymru.

Mae hyn yn sgil y trafodaethau diweddar rhwng swyddogion Cyngor Gwynedd, Esgobaeth Llanelwy, Llywodraethwyr dalgylch Y Berwyn ac Aelodau Lleol.

Cyflwynwyd adroddiad ger bron y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2016 yn argymell ymgynghori â chyrff llywodraethu ysgolion dalgylch Y Berwyn ar yr opsiwn i dynnu’r cynnig i sefydlu Campws Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reolir (VC, Eglwys yng Nghymru) yn nhref Y Bala yn ei ôl.

Penderfynodd y Cabinet yn ystod y cyfarfod hynny i ohirio ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er mwyn ystyried yr ohebiaeth diweddaraf a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng Nghymru ynghyd â’r farn gyfreithiol a dderbyniwyd hefyd.

Yn dilyn cyfarfod Cabinet mis Rhagfyr, cynhaliwyd cyfarfod gyda Phenaethiaid, Cadeiryddion ac Aelodau Lleol Y Bala, yn ogystal â chynrychiolydd ar ran Esgobaeth Llanelwy ar 18 Ionawr 2017 er mwyn rhannu diweddariad ar y sefyllfa.

Ers hynny, mae’r Cyngor wedi derbyn sylwadau gan gyrff llywodraethu ysgolion y Berwyn a Bro Tegid yn datgan eu gwrthwynebiad i statws arfaethedig y Campws Dysgu 3-19.

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd yn llwyr ganolbwyntio ar sicrhau’r ddarpariaeth addysg o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc dalgylch Y Berwyn ac mae’r gwaith o adeiladu’r Campws Dysgu 3-19 newydd yma sydd werth mwy na £10 miliwn yn mynd yn ei flaen yn dda.

“Yn anffodus, yn dilyn cyfnod hir o gydweithio gyda’r Eglwys yng Nghymru, mae’r datblygiadau diweddar wedi achosi pryder mawr yn lleol ac yn peri risg sylweddol i lwyddiant yr ysgol.

“O’r herwydd, bydd y mater yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i ystyried y sefyllfa a’r ffordd ymlaen.

"Fel rhan o’r drafodaeth, byddwn yn ystyried os dylid agor trafodaethau ffurfiol gyda llywodraethwyr ysgolion dalgylch Y Berwyn ar yr opsiwn i dynnu’r cynnig presennol yn ei ôl, ac ail gychwyn proses ymgynghori statudol o’r newydd.”

Os ydi’r Cabinet yn penderfynu mabwysiadu’r argymhelliad, byddai’r Cyngor yn trafod unrhyw oblygiadau cyllidol posib yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru.

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cwrdd ar ddydd Mawrth, 14 Chwefror i drafod y mater. Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan y Cyngor http://www.gwynedd.llyw.cymru/ycabinet

Rhannu |