Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Chwefror 2017

Siom Aelod Cynulliad Arfon bod y gogledd yn colli allan eto

Mae Aelod Cynulliad Arfon Sian Gwenllian wedi mynegi ei siom enbyd yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru mai Treforys yw lleoliad y Yr Awdurdod Cyllid newydd a fydd yn gweinyddu trethi yng Nhymru.

Meddai Sian Gwenllian: "Dyma golli cyfle eto i ddod a 40 o swyddi i’r Gogledd.

"Unwaith eto, rydym ni yn y Gogledd yn cael ein gadael lawr gan Llafur ym Mae Caerdydd.

"Nid swyddi i bobl y Cymoedd fydd y rhain – ond swyddi  i bobol deithio iddyn nhw o Gaerdydd."

Lai na mis yn ôl (Ionawr 10) fe gododd Sian Gwenllian y mater o leoliad yr Awdurdod efo’r Prif Weinidog yn y Senedd a chael yr ateb yma: “Mae hwnnw’n gwestiwn agored ar hyn o bryd. Ond, rwy’n deall, lle mae corff newydd yn cael ei greu—corff cyhoeddus newydd, felly—dylem edrych y tu fas i Gaerdydd, ac efallai y tu fas i’r de hefyd, er mwyn gweld a oes yna fodd i sicrhau bod y corff hwnnw yn gallu bod rhywle arall yng Nghymru. Felly, mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd.”

Meddai Sian Gwenllian: "Beth oedd y pwynt codi gobeithion dim ond i’w chwalu yn rhacs ychydig fisoedd yn ddiweddarach?"

Bydd Sian Gwenllian rŵan yn mynd ati i edrych ar y ‘dadansoddiad manwl o’r opsiynau’ sydd yn arfarniad y Llywodraeth, a bydd hefyd yn gofyn am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru y bydd y swyddi newydd sydd angen eu recriwtio yn rhai fydd angen sgiliau dwyieithog fel bod y corff newydd yn cynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.

 

Rhannu |