Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Chwefror 2017

Noson Gwylwyr S4C yn croesi Clawdd Offa i ymweld â hen brifddinas y gogledd

Mae’r cysylltiadau rhwng Lerpwl a Chymru yn rhai dwfn - a dyna pam mae swyddogion ac aelodau awdurdod S4C yn edrych ymlaen mor eiddgar at ymweld â’r ddinas cyn hir.

Fe fydd Noson Gwylwyr S4C yn cael ei chynnal yn y ddinas nos Fercher, 15 Chwefror am 7.00 yr hwyr yn y Victoria Gallery & Museum.

Fe fydd Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones, Prif Weithredwr S4C Ian Jones ac aelodau o’r awdurdod a’r tîm comisiynu yno i drafod rhaglenni a gwasanaethau S4C.

A fyddech chi’n hoffi gweld mwy o raglenni am y Cymry sy’n byw dros Glawdd Offa? Beth yw eich barn chi am yr arlwy chwaraeon? A ydy’r gwasanaeth isdeitlau ac i ddysgwyr yn ddigonol? Ac a oes digon o wasanaethau ar-lein?

Dyma’r math o gwestiynau y gallwch ofyn mewn trafodaeth agored rhwng y gwylwyr a swyddogion ac aelodau Awdurdod y sianel.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: “Mae S4C ar gael ar lawer iawn o blatfformau tu allan i Gymru bellach ac mae ein cynulleidfaoedd yng ngweddill y Deyrnas Unedig yn bwysig iawn inni.

“Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at gwrdd â’n cynulleidfa yn Lerpwl er mwyn cael clywed a ydym yn cynnig y rhaglenni a gwasanaethau sydd yn eich denu i wylio ac fe hoffen ni wybod beth yn fwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod dinasyddion y ddinas arbennig hon yn teimlo’n rhan o fyd cyffrous a theulu gwylwyr y sianel.”

Mae rhaglenni fel y gyfres gylchgrawn Heno a Newyddion yn ymweld â’r ddinas nifer o weithiau yn ystod y flwyddyn gan ei bod mor agos at y ffin.

Yn ddiweddar darlledwyd rhaglen ddogfen bwerus am gefnogwyr pêl-droed Lerpwl a gafodd eu heffeithio gan drychineb stadiwm Hillsborough yn 1989. Mae Hillsborough: Yr Hunllef Hir yn dal ar gael i’w gwylio ar alw ar-lein.    

Mae croeso cynnes i bawb i Noson Gwylwyr S4C. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, ac mae offer cyfieithu a system loop i'r rhai sydd eu hangen. Mae modd cyfrannu at y drafodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gallwch gael hyd i leoliad yr amgueddfa yng nghanol Lerpwl trwy ymweld â’i gwefan,  http://vgm.liverpool.ac.uk

Llun: Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones

Rhannu |