Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Chwefror 2017

Bendith yn rhyddau EP ar Ddydd Miwsig Cymru

Mae prosiect cydweithiol y bandiau Colorama a Plu, ‘Bendith’ yn rhyddhau EP ar ddydd Gwener, Chwefror 10, 2017 i ddathlu Dydd Miwsig Cymru.

Bydd y record fer 5 trac gan Bendith yn cael ei ryddhau ar  label Aficionado Recordings.

Ar gael ar finyl 12”, dyma gynnyrch finyl cyntaf y pedwarawd sy’n dod ynghyd Carwyn Ellis o Colorama ac Elan, Marged a Gwilym Rhys o Plu.

Yn dilyn arddull pop gwerinol albwm Bendith a gafodd ei ryddhau fis Hydref 2016, mae’r EP yn cynnwys 3 trac newydd a fersiynau o draciau’r albwm.

Mae dwy o’r caneuon newydd yn cynnwys addasiadau Cymraeg o hen glasuron;

Mae ‘Cân Am Gariad’ yn fersiwn o’r alaw ‘Love Song’ gan Lesley Duncan, wedi ei recordio ar gais gan Moonboots o Aficionado Records, sy’n casglu fersiynau o’r gân yn ei amser sbâr.

Addasiad o alaw draddodiadol o Japan yw ‘Hwiangerdd Takeda’, wedi ei ysbrydoli gan fersiwn 1969 band gwerin Japaneaidd, Akai Tori.

Mae’r holl draciau yn cynnwys yr un ymdriniaeth brydferth o harmonïau lleisiol a threfniannau offerynnol sy’n wedi sefydlu Bendith yn brosiect cerddorol unigryw ac arbennig.

Allan ar Ddydd Miwsig Cymru, 10/02/17, bydd yr EP ar gael ar 12” gan Aficionado Recordings mewn siopau arbennig, ac i’w lawrlwytho o iTunes, Spotify, Amazon ac o wefan http://www.bendith.bandcamp.com

Rhannu |