Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Chwefror 2017

Caniadaeth y Cysegr, rhagflaenydd Songs of Praise, yn dathlu 75 mlynedd

Darlledwyd rhaglen gyntaf erioed y gyfres canu emynau Caniadaeth y Cysegr - ar draws Prydain - ar wasanaeth radio Home Service y BBC ar Chwefror 15, 1942.

Yn ôl y wybodaeth a gyhoeddwyd 75 mlynedd yn ôl yn y Radio Times, cyflwynwyd y rhaglen gyntaf honno gan Idris Lewis, gyda Chantorion Llanelli yn canu dan arweiniad D.H. Lewis.

Roedd rhaglenni radio eraill y diwrnod yn cynnwys Marching Songs of Britain, Sincerely Yours Vera Lynn a’r bwletin Newyddion am 5pm - yn Gymraeg.

Roedd 1942 yng nghysgod yr Ail Ryfel Byd ac yn yr un flwyddyn lansiwyd Desert Island Discs gan y BBC, cofrestrodd y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Rhyfel ac fe gafodd dogni sebon ei gyflwyno.

Yn dilyn poblogrwydd Caniadaeth y Cysegr, lansiwyd y gyfres deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol gan BBC Cymru yn Ionawr 1961.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach penderfynodd y BBC yn Llundain ddilyn y fformat yn Saesneg. Caniadaeth y Cysegr, felly, yw mam-gu Songs of Praise.

Dywedodd cyn Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan: “Mae’n dda gwybod fod Cymru ymhell ar y blaen, mor belled ag mae darlledu canu emynau yn y cwestiwn.

"Roedd Caniadaeth y Cysegr bron yn ugain mlwydd oed cyn i Songs of Praise ymddangos ac mae’r cyfuniad o ganu da a diwinyddiaeth ddofn wedi cael effaith dda ar enaid ein cenedl.”

Bu’r cerddor Huw Tregelles Williams, cyn bennaeth cerdd BBC Cymru, yn cynhyrchu Caniadaeth y Cysegr am gyfnod, yn ystod ei ddyddiau cynnar yn y BBC. Mae hefyd wedi cyflwyno ambell raglen yn ogystal â bod yn organydd.

Dywedodd Huw: “Bu dylanwad Caniadaeth y Cysegr yn fawr dros y blynyddoedd, yn enwedig gan i lwyddiant y darllediadau cynnar, byw bryd hynny, esgor ar Dechrau Canu Dechrau Canmol a Songs of Praise.

“Gan fod bywyd crefyddol Cymru wedi newid cymaint dros y blynyddoedd, mae’n rhyfeddod fod apêl Caniadaeth y Cysegr yn parhau ar y radio; mae hyn yn deyrnged i’r cynhyrchydd presennol sydd, drwy nifer o syniadau newydd, yn diwygio’r traddodiad mewn modd mwy perthnasol i’r Gymru gyfoes.”

Bu Cedric Jones yn cynhyrchu’r gyfres yn ddi-dor am chwarter canrif, tan 2012, gan ymweld â bron i 500 o gapeli yng Nghymru a thu hwnt. Yn 1997 cafodd wahoddiad i Milwaukee i recordio Cymanfa Ganu Gogledd America.

Dywedodd Cedric, a wnaeth recordio dros 1,300 o raglenni: “Pleser y gwaith oedd cael y wefr o weld y capeli yn llawn, a chantorion o bedwar llais yn mwynhau canu’r emynau, gan wybod fod arweinyddion lleol wedi ymarfer am wythnosau cyn dydd y Gymanfa."

Yn un o raglenni diweddar Caniadaeth y Cysegr bu’r cyfansoddwr Richard Elfyn Jones yn cymharu’r profiad o ganu cynulleidfaol yn Gymraeg a’r Saesneg.

Dywedodd: “Does dim amheuaeth gen i fod ein treftadaeth Gymraeg yn rhagori rhywfaint, yn enwedig yn ansawdd yr emynau, dros gynnyrch cenhedloedd eraill, gan gynnwys y cynnyrch yn Saesneg.”

Mae’r traddodiad canu yng Nghymru wedi newid yn fawr ers dyddiau cynnar y gyfres.

Meddai Ceri Wyn Richards, y cynhyrchydd presennol: “Dwi’n cynhyrchu Caniadaeth Y Cysegr ers pum mlynedd ac wrth fy modd yn gwneud.

"Mae’n bryder gen i, serch hynny, fy mod wedi gweld niferoedd y cymanfaoedd yn lleihau a chanu ‘SATB’ yn gwanhau yn ystod fy nghyfnod cymharol fyr fel cynhyrchydd.

"Mae cadarnleoedd o hyd sy’n parchu’r arfer, ond mae’n ddyletswydd arnom ni gyd, sydd â diddordeb yn ein hanes emynyddol i sicrhau parhâd y traddodiad pwysig hwn.  

“Credaf mai un ffordd o wneud hyn yw creu archif sain gynhwysfawr, fel bod ein plant a phlant ein plant yn gyfoethocach o wybod beth yw sain, sŵn ac emosiwn canu emynau mewn pedwar llais ar ei orau.”

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Mae Caniadaeth y Cysegr yn un o berlau Radio Cymru ac yn dal i chwarae rhan bwysig yn hanes yr orsaf.

"Mae 2017 yn garreg filltir yn hanes darlledu Cymraeg wrth i Radio Cymru ddathlu’r deugain a Chaniadaeth y Cysegr yn dathlu 75 mlynedd.

"Mae’n braf gwybod bod y gyfres wedi cael cymaint o ddylanwad yng Nghymru a thu hwnt.”

 

Darlledir Caniadaeth y Cysegr ar BBC Radio Cymru ar brynhawniau Sul am 4.30pm ac ar wefan bbc.co.uk/radiocymru a BBC iPlayer Radio.

 

Rhannu |