Mwy o Newyddion
Dydd Miwsig Cymru 2017
Diwrnod i ddathlu’r goreuon o ganu Cymraeg dros yr hanner canrif ddiwethaf yw Dydd Miwsig Cymru.
Yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 10 Chwefror, bydd cyfres o berfformiadau byw yn Emporiwm y Castell, Stryd Womanby, Caerdydd a chyfres o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru gan gynnwys gigs, gosodiadau celf, cystadlaethau a pherfformiadau.
Y DJ Huw Stephens yw llysgennad Dydd Miwsig Cymru a dyma oedd ganddo i’w ddweud:
"Mae gan ddiwylliant Cymraeg cymaint o agweddau, ond mae cerddoriaeth fodern yn un mor bwysig a dwi’n meddwl y dylen ni fod yn hynod o falch ohoni hi.
"Pan o’n i yn yr ysgol uwchradd, roedd miwsig mor bwysig yn fy nenu i at yr iaith. Fe fyddwn i’n gwrando ar fandiau fel Big Leaves a Topper – yn ogystal â’r bandiau mawr fel y Super Furry Animals a Gorkys Zygotic Mynci.
"Roedden nhw’n ysbrydoliaeth anferth. Fe fyddwn i’n eu clywed nhw’n canu yn Gymraeg ar Radio 1 ac yn darllen amdanyn nhw yn fy hoff gylchgronau. Roedd clywed pobl yn dweud pa mor wych oedd miwsig Cymraeg yn deimlad hollol anhygoel!
"Ymlaen â ni i 2017 ac mae bandiau ifanc fel yr Estrons o Gaerdydd, Cpt Smith o Gaerfyrddin, Mellt o Aberystwyth a Candelas – un o’r llwyth o fandiau gwych ar y sin yn y Gogledd – yn artistiaid talentog sy’n gwneud miwsig gwych yn Gymraeg.
"Dwi’n ffodus iawn mod i’n cael y cyfle i glywed a gweld llawer o’r bandiau hyn fel rhan o’m swydd. A gwell fyth, dwi’n cael rhannu eu miwsig ag eraill ar fy sioeau radio. Dwi’n caru’n rhan yna o’m gwaith.
"Dyna pam y dechreuon ni Ŵyl Sŵn ddeng mlynedd yn ôl a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig – er mwyn rhoi llwyfan arall i fiwsig sydd wedi’i wneud yng Nghymru.
"I’r rheiny ohonon ni sy’n gyfarwydd â’r sin gerddoriaeth yng Nghymru, rydyn ni’n gwybod yn iawn ei fod e’n llawn talent anhygoel. Pwrpas Dydd Miwsig Cymru 2017 yw tynnu sylw at y dalent yma a’i chyflwyno i gynulleidfaoedd ymhob man – gan roi’r cyfle iddi ddisgleirio. Mae cymaint o gerddoriaeth Gymraeg wych allan yna a byddai’n drueni os na fydde hi’n cael ei chydnabod a’i dathlu hyd yn oed yn fwy.
"Y peth gwych am y diwrnod yma yw ei fod yn ffordd ffantastig i bawb – ffans cerddoriaeth, myfyrwyr, busnesau – i rannu a darganfod cerddoriaeth trwy restrau chwarae, rhaglenni, digwyddiadau neu drwy rannu eu hoff gerddoriaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae’n bosib bod rhai pobl ifanc heddiw’n teimlo bod y Gymraeg yn amherthnasol iddyn nhw, ac yn ystyried yr iaith yn ddiflas a ‘boring’.
"Ond dwi’n meddwl, petaen nhw’n gwrando ar rywfaint o’r miwsig ar y sin Gymraeg ac yn darganfod rhai o’r artistiaid talentog sy’n gwneud cerddoriaeth nad oedden nhw’n disgwyl ei bod hi’n cael ei gwneud yma yng Nghymru, y bydden nhw o bosib yn newid eu meddyliau. Mae yna rywbeth perthnasol a chyffrous ar y sîn i bawb.
"Yn naturiol, dwi wastad wedi brolio miwsig Cymraeg a fyddai’n gweithio i gynulleidfa ddi-Gymraeg – p’un ai ar fy rhaglenni i Radio 1 – neu yn y nosweithiau dwi’n eu trefnu yn Llundain neu pan dwi’n curadu neu’n DJio mewn gwyliau.
"Mae wastad yn wych gweld cynulleidfaoedd newydd yn dechrau mwynhau bandiau sydd efallai’n canu yn Gymraeg. Does dim rhaid i iaith fod yn rhwystr – yn wir, mae’r iaith yn rhywbeth y dylen ni ei thrysori a’i meithrin, yn enwedig pan mae yna bobl sy’n canu ac yn defnyddio’r iaith yn eu miwsig.
"Mae artistiaid fel y Super Furry Animals, Gwenno, 9 Bach a Cate le Bon yn mynd â’u cerddoriaeth o gwmpas y byd ac yn falch o ganu yn Gymraeg – ac maen nhw’n gwneud hynny’n naturiol ac yn greadigol.
"Mae albym cyntaf Gwenno, ‘Y Dydd Olaf’, yn cael ei ganu’n gyfan gwbl yn Gymraeg. Mae wedi cael cymaint o sylw – gan y diwydiant, ar y radio, yn y wasg ac ymhlith ffans ym mhedwar ban byd – mae’n wych o beth i weld.
"Dwi’n falch iawn o fod yn Gymro a mod i’n gallu siarad Cymraeg. Mae wedi rhoi i fi ac yn parhau i roi i fi gyfleoedd anferth – nid dim ond yn gymdeithasol ond o ran gwaith hefyd – ond, yn bwysicach na dim, mae’n gyfle i fwynhau hyd yn oed mwy o gerddoriaeth.
"Mae diwrnod sy’n canolbwyntio’n llwyr ar fiwsig Cymraeg yn gyfle i ni gyd fwynhau’r gerddoriaeth Gymraeg rydyn ni’n ei charu a hefyd i glywed artistiaid newydd a chaneuon newydd nad ydyn ni wedi eu darganfod eto.
"Dwi’n hyderus y bydd Dydd Miwsig Cymru 2017 yn cyflwyno pobl i fiwsig newydd anhygoel. A dwi’n eiddigeddus ohonyn nhw a dweud y gwir, am fod yna gymaint o stwff allan yna y gallan nhw ei ddarganfod a’i fwynhau!"
Llun: Huw Stephens