Mwy o Newyddion
Plaid yn condemnio 'papur gwyngalchu' Llywodraeth y DG ar adael yr UE
Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad Papur Gwyn Llywodraeth y DG ar adael yr UE gan ddweud ei fod yn gwyngalchu gofynion Cymru.
Dywedodd Leanne Wood fod y Prif Weinidog yn ymddangos yn benderfynol o olrhain Brexit caled drwy fethu a chynnwys argymhellion Papur Gwyn Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn.
Dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru: "Mae'r papur a gyhoeddwyd heddiw yn gwyngalchu gofynion Cymru.
"Mae Plaid Cymru wedi ymddwyn yn adeiladol ac yn rhagweithiol wrth geisio amddiffyn buddiannau economaidd Cymru.
"Rydym wedi estyn llaw er mwyn ceision sicrhau dyfodol i'n economi a'n cymunedau.
"Heddiw, mae Llywodraeth y DG wedi cadarnhau y byddant yn olrhain Brexit caled, drwy dynnu Cymru o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd gan fygwth 200,000 o swyddi Cymreig a gwneud rhwystrau tariff yn debygol.
""Mae Papur Gwyn y Ceidwadwyr yn atgyfnerthu penderfyniad ASau Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50 yr wythnos hon.
"Ar Fehefin 23, mae'n wir fod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ond ni wnaethant bleidleisio i fygwth swyddi, nac i roi toriad cyflog i'w hunain, nac i fygwth marchnad allforion Cymru, dau draean ohoni sy'n mynd i Ewrop.
"Nawr fod Papur Gwyn Llywodraeth y DG yn hysbys mae'n amlwg fod eu cynllun i adael yr UE yn mynd yn gwbl groes i safbwynt Cymru ac i fuddiannau cenedlaethol Cymru.
"Yn sgil hyn, bydd Plaid Cymru'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi difrod economaidd ac amherthnasedd gwleidyddol."