Mwy o Newyddion
Angen gweithredu ar frys i droi ‘dylifiad dawn’ o Gymru yn ‘fewnlifiad dawn’ i Gymru, medd AC y Blaid
Mae Llyr Gruffydd AC o Blaid Cymru, yr Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Addysg, wedi ymateb i’r ystadegau diweddaraf am fyfyrwyr yng Nghymru trwy alw am "weithredu ar frys" i ymdrin â’r 'dylifiad dawn' cynyddol sy’n effeithio ar brifysgolion Cymru a’r economi yn ehangach.
Dengys y ffigyrau diweddaraf, am y tro cyntaf, fod nifer y myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac sy’n gwneud cais i astudio yn Lloegr yn sylweddol uwch na nifer y myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac sy’n gwneud cais i astudio yng Nghymru.
Dengys y ffigyrau fod nifer y myfyrwyr rhyngwladol – dinasyddion yr UE a dinasyddion o’r tu allan i’r UE – sy’n gwneud cais i astudio yng Nghymru wedi cwympo.
Mae hyn yn groes i’r cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr heb fod o’r UE sy’n ymgeisio i astudio yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i gymell myfyrwyr i aros yng Nghymru neu ddychwelyd, yn unol â pholisïau sefydledig Plaid Cymru ac argymhellion adolygiad diweddar Diamond.
Meddai: "Mae’r ystadegau diweddaraf am ymgeiswyr a gyhoeddwyd heddiw yn tanlinellu y dylai’r Llywodraeth weithredu ar frys i atal y dylifiad dawn sydd ar hyn o bryd yn bla ar brifysgolion Cymru a’r economi yn ehangach.
"Mae’r ffigyrau yn newyddion drwg ar dri ystyr, ac yn dangos sut mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu pan mae’n fater o gadw a denu’r goreuon a’r disgleiriaf.
"Yn gyntaf, mae nifer y myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac sy’n gwneud cais i astudio yn Lloegr wedi codi’n sylweddol uwchlaw nifer y myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac sy’n gwneud cais i astudio yng Nghymru am y tro cyntaf.
"Yn ail, cafwyd cwymp yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n ymgeisio i astudio yng Nghymru o’r Undeb Ewropeaidd.
"Yn olaf, mae nifer yr ymgeiswyr o wledydd y tu allan i’r UE hefyd wedi disgyn, yn groes i’r cynnydd mewn ymgeiswyr i’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
"Mae angen gwneud llawer mwy i annog myfyrwyr i aros neu ddychwelyd i Gymru i astudio. Rhaid i ni droi’r 'dylifiad dawn’ yn 'fewnlifiad dawn.'
"Nid yn unig y bu Plaid Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru wneud llawer i greu cymhelliant i gadw myfyrwyr – mae Adolygiad Diamond annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar hefyd wedi gwneud argymhellion tebyg y mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn ymgynghori â hwy.
"Mae sector addysg uwch ffyniannus yn cyfoethogi Cymru yn ddiwylliannol, yn addysgol ac yn economaidd.
"Rhaid atal y tueddiadau presennol a amlygir gan y ffigyrau hyn er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i brifysgolion Cymru a phawb sy’n astudio yma."
Llun: Llyr Gruffydd