Mwy o Newyddion
Comisiynydd yn dangos bod galw am wasanaethau Cymraeg mewn archfarchnadoedd
Mae ymchwil newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dangos bod pobl yng Nghymru eisiau gweld archfarchnadoedd yn defnyddio’r Gymraeg.
Mae’r ymchwil yn dangos bod galw am wasanaethau Cymraeg mewn archfarchnadoedd ym mhob rhan o Gymru, gan siaradwyr Cymraeg a di Gymraeg.
Holiwyd 1,000 o aelodau’r cyhoedd beth oedd defnydd o’r Gymraeg gan archfarchnadoedd yn ei olygu iddyn nhw.
Dyma’r prif ganfyddiadau:
- mwy na 2 allan o 3 yn hoffi gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio gan archfarchnadoedd yng Nghymru
- dros 20% yn dweud eu bod yn fwy tebygol o siopa mewn archfarchnad os yw’n defnyddio’r Gymraeg
- 83% yn cytuno â’r gosodiad bod defnydd o’r Gymraeg yn dangos cefnogaeth tuag at ddiwylliant Cymraeg.
Mewn sylw pellach, dwedodd un cwsmer “Mae pecynnau Cymraeg yn tynnu llygaid mewn archfarchnad.”
Wrth lansio’r ymchwil dwedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg: “Mewn marchnad gystadleuol mae hi’n hollbwysig i gwmnïau wrando ar ddyheadau’r cwsmer a chymryd camau i fodloni’r dyheadau hynny.
"Hyderaf fod yr ymchwil yn dangos i archfarchnadoedd bod budd o ddefnyddio’r Gymraeg.
“Mae’n arwyddocaol bod y galw am wasanaethau Cymraeg ar ei gryfaf ymysg pobl ifanc, gan mai nhw yw cwsmeriaid a gweithlu’r dyfodol.
"Mae’n dangos hefyd bod angen i archfarchnadoedd barhau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg a chyflwyno’r iaith i ffyrdd newydd o siopa – ar-lein a thrwy apiau ffôn yn ogystal ag yn eu hadeiladau.
“Man cychwyn yw’r adroddiad hwn mewn gwirionedd, a byddwn yn ei ddefnyddio fel sail i weithio’n adeiladol â’r archfarchnadoedd i’w hannog a’u hysgogi i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg.”