Mwy o Newyddion
Cyhoeddi newidiadau arfaethedig ar gyfer defnyddio athrawon cyflenwi yng Nghymru
Mae newidiadau arfaethedig ar gyfer defnyddio athrawon cyflenwi yng Nghymru wedi cael eu hamlinellu mewn adroddiad annibynnol sy'n cael ei gyhoeddi heddiw (Dydd Iau 2 Chwefror).
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Dasglu Gweinidogol y Model Cyflenwi Athrawon ym mis Mehefin 2016 i ystyried materion sy'n ymwneud ag athrawon cyflenwi.
Fe wnaeth y Tasglu ystyried y cymhlethdodau a'r amrywiadau o ran sut y mae athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi.
Mae'r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion, gan gynnwys ystyried arbedion cost, tynnu sylw at gyfrifoldebau mewn perthynas â threfniadau diogelu, casglu data cywir, cynigion ar gyfer tâl ac amodau, a chefnogi athrawon sydd newydd gymhwyso a chyfleoedd dysgu proffesiynol.
Mae'r argymhellion yn cynnwys:
- Gwella'r data sy'n cael eu casglu am athrawon cyflenwi, fel eu bod yn fwy cywir.
- Cynnal dadansoddiad llawn i fesur gwir gost darparu athrawon cyflenwi.
- Ystyried y telerau a'r amodau ar gyfer athrawon cyflenwi fel rhan o gynigion ehangach i ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon i Gymru.
- Codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o ran y cyfrifoldebau sydd arnynt mewn perthynas â threfniadau diogelu a diweddaru'r canllawiau ar gyfer y gweithlu.
- Ystyried rheoleiddio ansawdd asiantaethau cyflenwi masnachol drwy gyflwyno cyfres o safonau ansawdd gofynnol achrededig y dylai'r holl asiantaethau masnachol sy'n darparu athrawon cyflenwi i ysgolion a gynhelir eu bodloni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion yn yr adroddiad.
Fodd bynnag, caiff gwaith polisi a chyfreithiol pellach ei wneud mewn modd manwl, er mwyn penderfynu a ellir cyflawni'r holl argymhellion, gan gynnwys y rhai ynghylch safonau ansawdd a chydweithredu ar sail rhanbarthol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: “Mae athrawon cyflenwi yn rhan bwysig o'r gweithlu athrawon ac rwyf am sicrhau y gallant fanteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol, ac y gallant gefnogi ein diwygiadau ehangach ym maes addysg.
“Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod lle amlwg i wella yn y ffordd rydym yn cyflogi athrawon cyflenwi, ac wrth reoli a chefnogi'r broses o'u darparu nhw ar gyfer ein hysgolion.
"Er fy mod yn derbyn argymhellion yr adroddiad ar hyn o bryd, mae rhai ohonynt yn codi materion cyfreithiol cymhleth y bydd angen i ni eu hystyried ymhellach.
"Bellach, byddwn yn dechrau'r broses hon, gan weithio'n agos gyda chynghorau, ysgolion, y gweithlu addysg, undebau ac eraill.
“Bydd rhaid i unrhyw newidiadau gyd-fynd â'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd.”