Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Chwefror 2017

Gwarchodaeth ychwanegol i adar môr a llamhidyddion Cymru

MAE Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi gweithredu i roi gwarchodaeth gryfach i adar môr a llamhidyddion yng Nghymru.

Ar ôl cynnal ymgynghoriad y llynedd ar sefydlu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig newydd (ACA) ar gyfer llamhidyddion, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo tair ardal o’r fath.

Mae’r ardaloedd hynny wedi’u cyflwyno bellach i’w hystyried gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Y tair ardal yw Ardal Forol Gogledd Ynys Môn, Ardal Forol Gorllewin Cymru a Cheg Môr Hafren.

Nodwyd yr ardaloedd hynny ar sail 18 mlynedd o ddata am ddosbarthiad llamhidyddion a nodwyd eu bod yn rhai pwysig oherwydd bod mwy o lamhidyddion yn cael eu gweld yno’n gyson nag mewn ardaloedd eraill.

Bydd yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ategu’r mesurau cadwraeth sydd yn eu lle eisoes ar draws dyfroedd y DU er mwyn helpu i sicrhau bod statws y rhywogaeth yn parhau’n ffafriol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cymeradwyaeth hefyd i sefydlu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig mewn tair ardal forol arall.

Yn eu plith y mae Gogledd Bae Ceredigion sy’n gartref i’r trochydd gyddfgoch dros y gaeaf, ac mae hi hefyd wedi ehangu dwy ardal fridio sy’n bwysig i adar môr, sef Ynys Feurig, Bae Cemlyn ac Ynys Sgogwm ac Ynys Skomer, sy’n hollbwysig ar gyfer ymdrwsio ac ymddygiadau eraill yn ystod y tymor pan fydd yr adar yn bridio.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Rydym wedi ymrwymo i greu rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru er mwyn i rywogaethau a chynefinoedd fedru ffynnu.

“Mae amgylchedd iach a chyfoethog yn y môr yn sicrhau bod modd defnyddio’n moroedd mewn ffordd gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.

“Mae’r ymateb eang i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar warchod llamhidyddion yn dangos bod pobl yn rhoi gwerth ar warchod bywyd yn y môr.

“Dw i’n falch ein bod yn cymryd camau i warchod ein llamhidyddion ac i warchod ardaloedd sy’n bwysig i adar môr.”

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu: “Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod y moroedd o amgylch Cymru’n cynnal y fath gyfoeth o fywyd gwyllt.

“Mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan gymunedau lleol ac mae’n cynnal busnesau pwysig fel pysgota, twristiaeth a hamdden.

“Mae CNC yn edrych ’mlaen at weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael eu rheoli’n briodol er mwyn helpu i’w cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Rhannu |