Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Chwefror 2017

Adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Gerdd Bangor gyda Lego

Bydd un o brif wyliau cerddoriaeth Cymru yn adeiladu ar ei llwyddiant eleni ac yn gwahodd pobl i ddod i chwarae gyda Lego i gyfeiliant ensemble bach.

Mae’r fenter yn rhan o ŵyl undydd Gŵyl Gerdd Bangor a gynhelir yng Nghanolfan Pontio Bangor ar y 18fed o Chwefror, a roddwyd at ei gilydd gan gyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Guto Pryderi Puw.

Bydd ymdrech adeiladwyr Lego o bob oed yn cael ei ddehongli gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor wrth iddynt ddefnyddio miloedd o frics plastig lliwgar i greu adeiladau bychain amrywiol.

Newidia’r gerddoriaeth mewn ymateb i liw a siâp y bric a ddefnyddir.

Bydd y digwyddiad Lego am ddim ac yn rhan o’r ŵyl sydd eleni yn rhoi llwyfan i ddim llai na phum premiere byd, gan gynnwys gweithiau gan Gareth Olubumni Hughes, Sarah Lianne Lewis a Roger Marsh.

Dywedodd y cyfarwyddwr artistig Guto Pryderi Puw: “Thema’r ŵyl eleni yw Pensaernïaeth a Thirwedd Trefol a’r syniad y tu ôl i’r digwyddiad Lego yw galluogi pobl o bob oedran i ymweld â’r ŵyl a phrofi cerddoriaeth mewn cyd-destun gwbl newydd na fuasent wedi ei ddychmygu o’r blaen.

“Rwy’n siŵr fod llawer ohonom ni wedi rhoi cerddoriaeth ymlaen yn y cefndir wrth i ni adeiladu rhywbeth gyda Lego ond prin iawn, os o gwbl, y byddem ni’n cael y cyfle i gael ensemble byw yn cyfeilio’r hyn rydym ni’n ei wneud ac yn ymateb yn gerddorol i’r hyn a adeiladwn.”

Ychwanegodd: “Fe wahoddais un o’n myfyrwyr cyfansoddi yn y drydedd flwyddyn, James Jarvis, i gyfansoddi darn sydd wedi ei ysbrydoli gan Lego ac mae wedi creu darn cyffrous a gwreiddiol o gerddoriaeth sy’n gwahodd nifer fawr o bosibiliadau wrth ei berfformio. O’r hyn rwyf wedi ei weld hyd yma o’r sgôr ac o wrando ar yr ymarferion, mae’r darn yn ymateb yn gynnil i’r hyn mae’r adeiladwr Lego yn ei wneud, gyda rhai o’r syniadau cerddorol penodol yn cyfateb i siâp neu liw penodol y briciau, gyda’r bwriad o fwyhau’r emosiynau a grëir wrth adeiladu gydag Lego.”

“Ddiddorol hefyd fydd gweld i ba raddau y mae’r cyhoedd yn cael eu hysbrydoli gan y gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae gan yr ensemble, efallai y byddwn yn gweld yr adeiladwyr Lego yn ymateb i’r hyn y mae’r gerddoriaeth yn ei wneud.”

“Mae hefyd yn gyfle gwych i fyfyrwyr cerdd y Brifysgol sy’n perfformio yn yr Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor. Yn wir mae’n gyfle i chwarae rhywbeth eithaf anarferol a fydd gobeithio yn lot o hwyl ac yn ysbrydoli’r cerddorion, y cyfranogwyr a’r gwrandawyr. Plîs dewch draw i’w brofi.”

Roedd y myfyriwr trydedd flwyddyn James Jarvis, sy’n hanu o Bromsgrove yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, wrth ei fodd o gael gwahoddiad i gyfansoddi ar gyfer digwyddiad Lego yr ŵyl.

Dywedodd: “Y cysyniad oedd ysgrifennu cerddoriaeth a fydd yn ymateb i’r hyn sy’n cael ei adeiladu gan yr adeiladwyr Lego, beth bynnag eu hoedran neu ryw.

“Wedi i mi gytuno i gymryd rhan tyfodd y syniad yn fy meddwl na ddylai’r gerddoriaeth dim ond ymateb i’r hyn sy’n cael ei adeiladu ond y dylai gludo’r adeiladwr Lego i atgofion o’u plentyndod.

“Roeddwn eisiau helpu’r adeiladwr Lego i fod yn fwy creadigol. Dwi’n meddwl fod meddyliau plant a phobl ifanc yn llawer haws i’w dylanwadu; mae nhw’n fwy parod i fod yn fwy dychmygus.

“Efallai bod pobl hŷn gyda rhwystr meddyliol mwy i’w oresgyn. Y syniad ydy eu bod nhw’n eistedd i lawr gyda’r Lego a bydd y gerddoriaeth yn eu rhyddhau nhw gan fynd a nhw’n ôl i’w plentyndod, neu o leiaf yn eu dylanwadu i fod yn fwy creadigol.

“Ceir gerddoriaeth wahanol gan ddibynnu ar liw a siâp y brics Lego sy’n cael eu defnyddio. Gan fwyaf y drwm sy’n adweithio yn gyntaf. Mae’r brics coch yn arwain at un rhythm, y brics glas, melyn a gwyn yn arwain at rhythmau gwahanol.

“Bydd yr offerynnau eraill, y fiola, ffliwt a chlarinét yn adweithio i’r hyn mae’r drwm a’r adeiladwr Lego yn ei wneud. Roeddwn eisiau dehongli seiniau’r safle adeiladu yn gerddorol.”

Dywedodd y drymiwr Thomas Whitcombe, o Rymni, Caerffili, sydd ym mlwyddyn gyntaf ei radd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor: “Mae’n ddiddorol iawn ac nid wyf erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen.”

Ymysg uchafbwyntiau eraill yn yr ŵyl bydd cerddoriaeth sy’n cael ei ddylanwadu gan ddelweddau a fideos pontydd, gyda’r ffilmiau yn cael eu dangos yn sinema Pontio, wedi ei gyfeilio gan gerddoriaeth sydd wedi ei gyfansoddi gan fyfyrwyr cyfansoddi Prifysgol Bangor a’i berfformio gan bedwarawd sacsoffon Cerddorfa Sesiwn Bangor.

Tua amser te, caiff yr adeilad ei lenwi â cherddoriaeth gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor mewn digwyddiad a fydd hefyd yn gweld perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Claire Victoria Roberts a Jonathan Roberts, ymysg myfyrwyr cyfansoddi eraill.

Bydd cyngerdd olaf yr ŵyl yn serennu’r Fidelio Trio byd enwog, a fydd yn perfformio detholiad o gyfansoddiadau sydd wedi eu hysbrydoli gan adeiladau a phensaernïaeth. Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau cyntaf o gyfansoddiadau newydd gan Sarah Lianne Lewis a Roger Marsh, y ddau wedi eu comisiynu gan yr ŵyl.

Yn ôl Guto Pryderi Puw, bydd y cyngerdd nos, ‘The Towers of Silence’, yn cynnwys cyfansoddiadau sydd wedi eu seilio ar adeiladau eiconig.

Ychwanegodd: “Bydd gwaith gan y cyfansoddwr Gavin Higgins, dan y teitl ‘Ruins of Detroit’, yn archwilio pensaernïaeth sydd wedi syrthio i mewn i gyflwr adfail yn y ddinas Americanaidd tra bod y prif ddarn, ‘Towers of Silence’ gan Rolf Hind, yn edrych ar angladdle yn y Dwyrain Pell.

“Bydd amryw o brosiectau hefyd yn cael eu cynnal mewn ysgolion, ac rydym ni’n awyddus iawn i barhau i ysbrydoli plant ysgol.

“Yn ystod Ionawr a Chwefror, mewn arweiniad tuag at yr ŵyl, bydd amryw o gyfansoddwyr ag artistiaid yn cynnal cyfres o weithdai addysgol mewn ysgolion cynradd ac eilradd.

“Rwy’n gyffrous iawn am yr ŵyl sydd ar y gweill ac wrth fy modd y byddwn yn defnyddio Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio fel prif leoliad yr ŵyl am y tro cyntaf.

“Yr adeilad anghredadwy a hardd yma sbardunodd y syniad i gael ‘pensaernïaeth’ a ‘thirwedd trefol’ fel prif thema’r ŵyl yn y lle cyntaf.”

Er mwyn canfod mwy am Gŵyl Gerdd Bangor ac am y rhaglen lawn ymwelwch â http://www.gwylgerddbangor.org.uk

Llun: Chris Schelb, Tom Renfree, James Jarvis, Zach Reading a Thomas Whitcombe yn ymarfer ar gyfer y sesiynau arbrofol efo Lego

Rhannu |