Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Chwefror 2017

Cyhoeddi panel arbenigol i gefnogi gwaith ar ddiwygio trefniadau etholiadol

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, wedi cyhoeddi y bydd yr Athro Laura McAllister yn cadeirio Panel Arbenigol y Cynulliad ar Ddiwygio Etholiadol.

Pwrpas y Panel Arbenigol yw cynghori Comisiwn y Cynulliad ar dri mater craidd:

  • faint o Aelodau y mae ar y Cynulliad eu hangen;
  •  y system etholiadol fwyaf addas i'w defnyddio ar gyfer eu hethol; a'r
  •  oedran pleidleisio priodol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Er y bydd y Panel Arbenigol yn cynnal rhywfaint o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn ystod ei waith, ei flaenoriaeth fydd cyflawni'r cylch gorchwyl a nodir isod.

Meddai'r Llywydd wrth gyhoeddi'r Panel: “Trwy ddatganoli pwerau i'r Cynulliad a symud i fodel cadw pwerau, rhoddir sail gyfansoddiadol newydd i'r Cynulliad, â chyfrifoldebau newydd pwysig.

"O'r diwedd, mae gan y Cynulliad reolaeth dros ei faterion ei hun i helpu i wneud y sefydliad hwn yn ddeddfwrfa gryfach, fwy hygyrch, cynhwysol a blaengar sy'n cyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

"Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi Panel mor gymwys â gwybodaeth mor arbenigol.

"Rhyngddynt, mae ganddynt arbenigedd helaeth ym meysydd systemau etholiadol, gwaith a chapasiti Seneddau, sefyllfa gyfansoddiadol y Cynulliad Cenedlaethol, a materion ehangach yn ymwneud â llywodraethu, gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymgysylltu.

"Bydd eu gwaith yn hanfodol i ymdrechion y Comisiwn i ddiwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llywio dyfodol democratiaeth yng Nghymru.

"Nid oes modd gwahanu materion cyfansoddiadol sylfaenol o'r fath yn llwyr oddi wrth wirioneddau gwleidyddol democratiaeth gynrychiadol yng Nghymru.

"Felly, byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Prif Weinidog a'r pleidiau gwleidyddol sydd â chynrychiolaeth yn y Cynulliad i feithrin a chynnal cefnogaeth drawsbleidiol eang."

Meddai'r Athro Laura McAllister: "Mae capasiti'r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau hanfodol, sef dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi ar gyfer Cymru, a chynrychioli pobl Cymru wedi bod yn destun trafod ers amser.

"Mae'r Panel a minnau'n edrych ymlaen at archwilio'r dystiolaeth, a pharatoi argymhellion cadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, i'r Llywydd a'r Comisiwn eu hystyried."

Dyma aelodau'r Panel:

  • Yr Athro Laura McAllister (Cadeirydd) - Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru
  • Yr Athro Rosie Campbell - Athro Gwleidyddiaeth, Birkbeck, Prifysgol Llundain a'r Athro Sarah Childs - Athro Gwleidyddiaeth a Rhywedd ym Mhrifysgol Bryste (aelodaeth ar y cyd)
  • Rob Clements - cyn-Gyfarwyddwr Darparu Gwasanaethau yn Nhŷ'r Cyffredin
  • Yr Athro David Farrell - Cadeirydd Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Dulyn
  • Y Dr Alan Renwick - Dirprwy Gyfarwyddwr Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain
  • Syr Paul Silk - Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru rhwng 2011 a 2014, a chyn-Glerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd y Llywydd hefyd yn sefydlu ac yn cadeirio Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol. Caiff ei aelodau eu henwebu gan y pleidiau gwleidyddol sydd â chynrychiolaeth yn y Cynulliad.

Cynghori fydd rôl y Grŵp Cyfeirio. Bydd yn ystyried ac ymateb i ganfyddiadau'r Panel wrth iddynt ddod i'r amlwg, a bydd yn helpu'r Panel i sicrhau bod ei waith yn arwain at argymhellion ymarferol. 

Llun: Yr Athro Laura McAllister

Rhannu |