Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Chwefror 2017

Penodi Ymddiriedolwyr newydd i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Ken Skates AC. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a Rhodri Glyn Thomas, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi heddiw bod tri Ymddiriedolwr newydd wedi’u penodi i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Steve Williams a’r Llyfrgell wedi penodi Gwilym Dyfri Jones a Dr Tomos Dafydd Davies.

Bydd cyfnod gwasanaeth y tri yn cychwyn ar 1 Chwefror, ac yn parhau am bedair blynedd.

Dywedodd Ken Skates: "Rwy'n falch o gadarnhau penodiad Llywodraeth Cymru o Mr Steve Williams, fel ein Ymddiriedolwr newydd i fwrdd y Llyfrgell Genedlaethol.

"Rydym hefyd yn croesawu  dau benodiad arall gan yLlyfrgell Genedlaethol sef Mr Gwilym Dyfri Jones a Dr Tomos Dafydd Davies.

"Rwy'n edrych ymlaen i’r ymddiriedolwyr newydd ddechrau ar eu cyfnod o bedair blynedd yn y swydd ac yn croesawu'r ymrwymiad cryf a’r brwdfrydedd yr wyf yn siŵr y byddant yn ei roi i’w rolau newydd."

Ychwanegodd  Rhodri Glyn Thomas, Llywydd y Llyfrgell: “Mae Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hynod falch i groesawu penodiad tri ymddiriedolwr newydd. 

"Fe ddaw ein hymddiriedolwyr newydd â phrofiad ac arbenigedd gwerthfawr i’r Bwrdd, ynghyd ag ymrwymiad amlwg i werthoedd a dyheadau’r Llyfrgell a gwn y bydd fy nghyd-ymddiriedolwyr yn ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant iddynt ar ddechrau eu cyfnod o wasanaeth.”

Cafodd Hugh Thomas ac Arglwydd Aberdâr eu hail apwyntio i ail dymor yn y swydd o 1 Tachwedd 2016.

Rhannu |