Mwy o Newyddion
Gofyn am eglurder ynglŷn ag Unedau Mân Anafiadau’r Canolbarth a’r Gorllewin
Mae AC Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â dyfodol Unedau Mân Anafiadau’r rhanbarth.
Yn ystod cyfarfod lawn y Cynulliad ar ddydd Mawrth, roedd Simon Thomas AC yn awyddus am well sicrwydd ynglŷn â dyfodol yr Unedau Mân Anafiadau yn Llandrindod a Dinbych y Pysgod.
Codwyd yr achos yn dilyn y penderfyniad i gau Uned Mân Anafiadau Llandrindod dros nos ym mis Chwefror.
Dywedodd Simon Thomas, Aelod y Cabinet Cysgodol: “Hoffwn wneud cais am ddatganiad polisi ehangach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r defnydd o Unedau Mân Anafiadau, gan fod yna lawer o ddryswch i gael ymysg pobl ynglŷn â phwrpas yr Unedau hyn.
“Mae yna gynnig yn Ninbych y Pysgod am wasanaeth ‘galw i mewn’, ond beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwasanaeth galw i mewn ac uned mân anafiadau?
"Beth yw’r gwahaniaeth rhwng rhywbeth sy’n gysylltiedig gyda’r ysbyty neu, yn syml, pryd mae’r Meddyg Teulu yn bresennol?
"Credaf mai’r dryswch hyn sydd yn arwain at bobl yn anwybyddu neges Dewis Doeth Llywodraeth Cymru ac yn mynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
“Awgrymaf mai’r rheswm bod cynifer o bobl yn mynychu’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, lle byddai unedau eraill yn gallu delio gyda’r anafiadau yn fwy effeithlon, yw eu bod yn anymwybodol bod yr unedau hynny ar agor, maen nhw’n ansicr os mae’r unedau hynny yn delio gyda’r cyflwr penodol sydd ganddynt ac felly mae’n amhosib iddynt ddarganfod diagnosis i’w hunain.
“Mae angen wasanaeth cyson a ddibynadwy yr allent ddibynnu arno.
"Nid yw cau Uned Mân Anafiadau Llandrindod dros nos ym mis Chwefror yn gwneud un rhywbeth i helpu eglurder y neges honno.
"Mae’r oedi yn Ninbych y Pysgod ar sefydlu gwasanaeth galw i mewn, ar ôl i’r uned mân anafiadau cael ei gau yn sydyn, dros nos am resymau argyfwng a heb fyth cael ei adfer, eto, yn gostwng hyder y cyhoedd.
“Mae yna ddryswch o fewn Llywodraeth Cymru ei hunain am y berthynas rhwng yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, unedau mân anafiadau ac amseroedd agor yn hwyr i Feddygon Teulu.
"Dylwn gael un neges gyson i’r cyhoedd.
"Os bosib, mi fydd datganiad polisi, neu hyd yn oed dadl amdano’r pethau hyn yn gwella eglurder ac effeithiolrwydd y negeseuon hyn."
Llun: Simon Thomas