Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Ionawr 2017

Pafiliwn yr Eisteddfod yn ennill gwobr

Mae Pafiliwn newydd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ennill un o wobrau mawr y diwydiant gwyliau ar draws Prydain.

Derbyniodd cwmni Neptunus, sy’n gyfrifol am yr adeilad, y wobr am y Strwythur Dros-Dro Gorau yng ngwobrau’r Festival Supplier Awards yn Llundain ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y strwythur ei ganmol gan feirniaid y gwobrau, gan nodi “ei fod yn darparu ateb arloesol i ddigwyddiad proffil-uchel, gan wella’r profiad ar gyfer pawb a chan godi safon y cynhyrchiad ar gyfer yr elfennau darlledu.”

Meddai Huw Aled Jones, Pennaeth Technegol yr Eisteddfod: “2016 oedd blwyddyn gyntaf y strwythur newydd, ac rydym ni a Neptunus yn hynod falch gyda’r ymateb gan ein hymwelwyr a chan y diwydiant gwyliau.

“Yn ddi-os, roedd y profiad o fod yn y Pafiliwn newydd yn gwbl wahanol i’r hyn a gafwyd yn y babell fawr binc, gyda’r ansawdd gymaint yn well ar gyfer perfformwyr ac artistiaid, cystadleuwyr a’r gynulleidfa.

"Roedd y strwythur newydd hefyd yn ein galluogi i fod yn fwy beiddgar ac arbrofol gyda goleuadau a sain, gan greu awyrgylch llawer mwy safonol a phroffesiynol ar brif lwyfan yr Eisteddfod.

“Heb gymorth Neptunus, ni fyddem wedi gallu cyrraedd ein nod sef symud o lwyfan mewn pabell i neuadd gyngerdd mewn cae, ac edrychwn ymlaen at gydweithio eto eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

"Llongyfarchiadau mawr i dîm Neptunus ar ennill y wobr hon.”

Ychwanegodd April Trasler, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Neptunus: “Rydym yn falch iawn o ennill y wobr genedlaethol hon.

"Llwyddodd ein strwythur arbennig i greu gofod a oedd yn llawer mwy creadigol, ac yn llawer tebycach i’r profiad o fod mewn adeilad parhaol na’r hen Bafiliwn Eisteddfodol.

“Mae ennill y wobr arobryn hon yn ardystiad ardderchog i brosiect hynod lwyddiannus.”

Bydd y strwythur newydd yn dychwelyd i Faes yr Eisteddfod eleni, pan gynhelir yr ŵyl ym Modedern, Ynys Môn o 4-12 Awst.  Mae tocynnau ar werth o 3 Ebrill ymlaen, a safleoedd carafán a stondinau ar gael o 1 Chwefror, http://www.eisteddfod.cymru

Llun: Mae'r profiad o fod yn y pafiliwn newydd yn gwbl wahanol i’r hyn a gafwyd yn y babell fawr binc (Llun gan Keith Morris)

Rhannu |