Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Ionawr 2017

Ymweld â Tsieina i gryfhau'r berthynas â Chymru

Bydd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, yn ymweld â Tsieina fis nesaf mewn ymgais i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a'r wlad sydd ag ail economi fwyaf y byd.

Cyhoeddodd Ken Skates y bydd yn ymweld â'r wlad yn Fforwm Allforio Gogledd Cymru - un o ddau ddigwyddiad sy'n cael eu cynnal i atgyfnerthu ffocws Llywodraeth Cymru ar allforio ac allforwyr wrth i'r DU baratoi i fyw y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE).

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: "Rwy'n falch fy mod wedi mynd i Fforwm Allforio De a Gogledd Cymru a fy mod wedi siarad yn uniongyrchol â rhai o'n allforwyr mwyaf dylanwadol wrth inni baratoi i fyw y tu allan i'r UE.

"Mae cynyddu gwerth allforion a nifer yr allforwyr yng Nghymru wedi bod yn rhan ganolog o'n strategaeth economaidd am gryn dipyn o amser. Ar yr adeg hon o newid, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn canolbwyntio ar gryfhau ein cysylltiadau masnach â gwledydd ledled y byd.

"Mae gennym eisoes amrywiaeth eang o gymorth i helpu cwmnïau i allforio ac rydym wedi bod yn rhagweithiol mewn rhai o farchnadoedd mwyaf y byd am gryn dipyn o amser.

"Rwy'n falch o gadarnhau y byddaf yn ymuno fis nesaf â 18 cwmni o Gymru fel rhan o'u taith fasnach nesaf i Tsieina yn y gobaith o feithrin mwy o gysylltiadau masnach ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn berthynas gadarn ac yn un sy'n ffynnu.

"Fel rhan o'm taith, byddaf yn ymweld â Chongqing a Shanghai ac rwy'n hyderus y bydd fy ymweliad a'r daith fasnach yn galluogi cwmnïau o Gymru i fanteisio ar gyfleoedd busnes newydd yn Tsieina.

“Rwy’n ffyddiog o hynny gan fod fy ymweliad â Japan a’r daith fasnach i’r wlad honno fis Hydref diwethaf eisoes wedi arwain at archebion a chontractau posibl sy’n werth £1.4 miliwn i’r busnesau a deithiodd yno.

"Rydym i gyd yn gwybod bod busnesau yn wynebu dyfodol heriol.  Rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu busnesau i barhau i allforio ac yn wir i ddatblygu ymhellach wrth i'r DU symud allan o'r UE."

Mae Conren, sef cwmni gweithgynhyrchu arbenigol o Wrecsam, yn un o'r cwmnïau a fydd yn mynd ar y daith fasnach i Tsieina a Hong Kong ym mis Chwefror.

Dywedodd Veronica Dawson, rheolwr allforio'r cwmni: "Mae allforio yn rhan allweddol o'n busnes ac ar hyn o bryd rydym yn allforio i dros 30 o farchnadoedd o amgylch y byd.

"Mae ein busnes wedi elwa'n fawr arno am ei fod yn darparu ffynhonnell refeniw hanfodol.

"Mae hefyd wedi ein hannog i fod yn fwy arloesol wrth inni ddatblygu ein cynhyrchion i ymateb i heriau'r farchnad fyd-eang.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant, gan ddarparu cymorth a chyngor wrth inni ddod o hyd i farchnadoedd newydd.

"Roedd y Fforwm Allforio yn gyfle gwych inni gwrdd ag allforwyr eraill o bob cwr o Gymru ac i glywed sut mae cwmnïau eraill yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y daith fasnach fis nesaf." 

Llun: Ken Skates
 

Rhannu |