Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Ionawr 2017

‘Byddai'n dda i Trump i ddarllen ei Feibl cyn gweithredu polisiau sy'n gwahaniaethu' meddai Cymorth Cristnogol

Mae gwrthod ffoaduriaid, beth bynnag y bo eu ffydd, yn gyfystyr a gwrthod gwerthoedd Cristnogol, rhybuddiodd Cymorth Cristnogol, elusen sydd wedi ei lleoli yn y DG.

Wrth ymateb i sylwadau’r Arlywydd Trump dros y penwythnos, pryd y datganodd ei fwriad i flaenoriaethu ffoaduriaid Cristnogol o Syria, mae Cymorth Cristnogol wedi codi llais yn erbyn ffafrio rhai lleiafrifoedd crefyddol arbennig, gan ddweud bod gwneud hynny yn anwybyddu neges ganolog yr Efengyl.

Dywedodd Huw Thomas, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, a fynychodd y rali yng Nghaerdydd neithiwr yn erbyn Gorchymyn Gweithredol Trump: "Mae’r gorchymyn i ‘garu’r dieithryn’ ac i sefyll gyda’r bregus, pwy bynnag y bo, yn greiddiol i’r ffydd Gristnogol. Mae dilyn Iesu yn golygu croesawu pobl sy mewn angen - beth bynnag bo’u crefydd.

"Mae gwrthod ffoaduriaid, beth bynnag bo eu ffydd, yn gyfystyr a gwrthod gwerthoedd Cristnogol. Byddai’n dda i Trump ddarllen ei Feibl cyn gweithredu polisïau sy’n gwahaniaethu."

Wrth ymateb i orchymyn gweithredol yr Arlywydd Trump i atal ffoaduriaid a phobl o saith gwlad sydd â phoblogaethau mwyafrifol Mwslemiaid, ychwanegodd Mr Thomas: "Daeth y byd at ei gilydd dros chwe degwd yn ôl i sefydlu Confensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig er mwyn atal ailadrodd y profiad dychrynllyd a gafodd miliynnau yn ystod y ddau ryfel byd.

"Mae’r Arlywydd Trump yn rhwygo’r egwyddor bod gan bob person, waeth beth bo’i ffydd neu ei genedl, yr hawl i geisio diogewlch a lloches.

"Mae angen i bobl gyffredin gymryd safiad yn erbyn ymgais Trump i ddinistrio’r rhyddid a’r hawliau dynol sydd wedi eu hennill mor galed.

"Dyw’r Arlywydd Trump yn sicr ddim ar ei  ben ei hun yn ei agweddau atgas tuag at ffoaduriaid.

"Rydym yn gweld rhethreg sy’n gynyddol elyniaethus tuag at bobl sydd a’u dioddefaint y tu hwnt i ddim y gallem ni ei ddychmygu yn cael normaleiddio. Mae’n adeg rhoi stop ar y fath gasineb.

"Mae Cymorth Cristnogol yn gweithredu yn nifer o’r gwledydd sydd ar restr Trump, yn dod a chymorth brys i bobl sy mewn angen.

"Y gwir yw bod y mwyafrif o ffoaduriaid wedi cael lloches gan wledydd sydd yn datblygu.

"Ni ddylai gwledydd cyfoethog, fel Prydain a’r UDA, droi clust fyddar i bobl mewn angen mawr.

"Mae ailgyfanheddu ffoaduriaid yn rhan o’r llwybr tuag at heddwch."

Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio trwy ei bartneriaid yn lleol o amgylch y byd i gefnogi cymunedau o ffoaduriaid sydd wedi eu dadleoli oherwydd anghydfod.

Ym Mhrydain ac Ewrop, maent yn annog atebion ymarferol tymor hir i’r dadleoliad byd-eang, gan gynnwys ailgyfanheddu ac ail-leoliad ffoaduriaid, yn ogystal â buddsoddiad uwch i geisio ateb achosion craidd y dadleoli hwn.

Llun: Y brotest yng Nghaerdydd Nos Lun, un o nifer a gynhaliwyd ar draws Cymru a'r DG (Llun gan Cadi Dafydd Jones)

Rhannu |