Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Ionawr 2017

Arddangosfa Arwyr Cymru

Rydyn ni gyd yn ymwybodol mai gwlad o chwedlau yw Cymru; o’r Mabinogi a’r ddraig goch, i Frenin Arthur a Chwpan Nanteos.  Ond nid dyma’r unig chwedlau sydd gyda ni – mae ambell i ‘legend’ yma hefyd.

Yn ystod haf 2016 daeth Tîm Pêl-droed Cymru yn arwyr gyda’i llwyddiant ym Mhencampwriaeth Euro. 

Ysbrydolodd cyffro’r haf hwnnw yn Ffrainc y gôl-geidwad cenedlaethol, Owain Fôn Williams, i ddal rhai o eiliadau gorau’r daith yn y paentiad ‘Together Stronger’, sy’n cyfleu ethos ‘gorau chwarae, cyd chwarae’ yn berffaith.

Meddai Owain: “Roedd haf 2016 yn un bythgofiadwy i ni yng Nghymru, un y gwnaf i fyth anghofio.

"Ar ôl dychwelyd adref a chael amser i feddwl am beth oedd wedi ei gyflawni a’i brofi gan y garfan, staff a’r cefnogwyr; mi benderfynais fod y cyfnod hwn yn ein hanes yn llawn haeddu cael ei gofnodi ar gynfas.

"Dwi wedi ceisio cyfleu’r ymdeimlad o ‘gyda’n gilydd yn gryfach’ – felly does neb yn ganolog yn y llun, doedd dim un unigolyn yn ganolog i’r llwyddiant.”

O 18 Mawrth trwy gydol 2017 bydd ‘Together Stronger’ i’w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ochr yn ochr â rhai wynebau cyfarwydd eraill o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol, fel Ruth Jones, Dafydd Iwan, Gwynfor Evans a Siân Phillips.

Rhannu |