Mwy o Newyddion
Amgueddfa yn hel atgofion
BYDD Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn dathlu’i phenblwydd yn 40 yn 2012 a’r gobaith yw cael help llaw gan y gymuned leol i gasglu atgofion o’i dyddiau, wythnosau a misoedd cyntaf.
Caeodd y gweithdai Fictoraidd gwreiddiol – sy’n gartref erbyn hyn i Amgueddfa Lechi Cymru – yn Awst 1969 ynghŷd â chwarel lechi Dinorwig. Ail-agorwyd y safle ar 26 Mai, 1972, fel Amgueddfa Chwareli Gogledd Cymru.
Eglurodd Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, ymhellach: “Ers y diwrnod hwnnw’n 1972, mae’r enw wedi newid i Amgueddfa Lechi Cymru ac mae ymhell dros dwy filiwn a hanner o bobl wedi camu trwy’r porth a phrofi hanes y diwydiant llechi yn yr ardal hon.
“Rydyn ni am i’n penb-lwydd yn ddeugain adlewyrchu a dathlu yr holl weithgaredd mae’r lle arbennig hwn wedi’i weld dros y degawdau diwethaf, o’r dyddiau agoriadol yn y saithdegau i’r ail-ddatblygu mawr fu yn niwedd y nawdegau i Mynediad am Ddim yn y mileniwm newydd.”
Mae’r amgueddfa ar hyn o bryd yn casglu gwybodaeth am yr agoriad ei hun yn 1972 a’r dyddiau cynnar yn y 70au.
“Rydyn ni’n gwybod fod cannoedd o filoedd o bobl wedi ymweld â’r amgueddfa yn ystod y blynyddoedd cynnar,” meddai’r Curadur Cadi Iolen.
“Os oes gan unrhyw un luniau neu gofroddion neu atgofion o’r dyddiau cynnar hynny, mi fuasen ni wrth ein boddau’n clywed ganddynt.”
Bydd Diwrnod Atgofion Amgueddfa rhwng 1yp a 3yp, ddydd Mercher, 17 Awst. Os na fedrwch ddod acw y diwrnod hwnnw, ond eich bod yn awyddus i gyfrannu, mae croeso i chi gysylltu â’r amgueddfa ar 01286 870630 neu drwy ebostio llechi@amgueddfacymru.ac.uk
Mewn partneriaeth â Culturenet Cymru a Chasgliad y Werin Cymru.