Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Ionawr 2017

Darllenwyr yn cael blas ar lyfrau Cymraeg

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi derbyn adroddiad calonogol iawn gan gwmni ymchwil Beaufort Research yn dilyn arolwg o arferion darllen ymysg Cymry Cymraeg.

Allan o’r 1,005 o siaradwyr Cymraeg dros 16 oed a holwyd, roedd 24% yn darllen o leiaf un llyfr y mis o’i gymharu â 19% yn 2012 a 13% yn 2006.

Yr oedd hefyd yn galonogol bod y nifer sy’n darllen un llyfr y flwyddyn wedi aros yn sefydlog oddi ar yr arolwg diwethaf yn 2012 (44% yn 2016 o’i gymharu â 43% yn 2012). 

Bu cynnydd sylweddol hefyd yn y nifer oedd yn darllen llyfrau’n rheolaidd, gyda 36% yn darllen mwy na 10 llyfr y flwyddyn yn 2016. Roedd y ffigur hwn yn 28% yn arolwg 2012.

Cadarnhawyd hyn ymhellach gyda chynnydd yn y nifer oedd yn darllen mwy na 20 llyfr y flwyddyn (20% yn 2016 o’i gymharu â 14% yn 2012).

Comisiynwyd yr arolwg hwn i arferion darllen a phrynu llyfrau Cymraeg gan y Cyngor Llyfrau, ac fe’i cynhaliwyd yn ystod gwanwyn a hydref 2016.

Gofynnwyd i gwmni Beaufort Research hefyd gymharu’r canlyniadau â’r arolygon tebyg a gynhaliwyd yn 2003, 2006 a 2012.

“Mae canlyniadau’r arolwg yn galonogol unwaith eto,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau.

“Y mae’r diwydiant cyhoeddi wedi wynebu newidiadau yn ddiweddar, ond mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu awch y darllenwyr am lyfrau Cymraeg ac egni’r sector cyfan i ddarparu ystod o ddeunydd apelgar ar eu cyfer.”

Ychwanegodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith: “Rwyf yn falch o glywed am ganlyniadau’r arolwg hwn sy’n cadarnhau bod cyfran dda o siaradwyr Cymraeg yn ddarllenwyr rheolaidd.

"Mae’n tanlinellu unwaith eto rôl bwysig y diwydiant cyhoeddi yn cefnogi Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru a sicrhau parhad tymor hir yr iaith.”

Dengys yr arolwg mai nofelau yw’r categori mwyaf poblogaidd ymysg y darllenwyr, gan adlewyrchu’r buddsoddiad a wnaed yn y maes dros y blynyddoedd diwethaf a llwyddiant y cyhoeddwyr i sicrhau cnwd o awduron newydd yn ogystal â chyfrolau gan enwau cyfarwydd. Fe welir hefyd fod llyfrau ar gyfer plant yn parhau’n hynod boblogaidd.

Yn ogystal, bu’r arolwg yn edrych ar batrymau prynu llyfrau Cymraeg gan holi hefyd sut mae’r cyhoedd yn dod o hyd i wybodaeth am y deunydd diweddaraf.

Pwysleisir eto bwysigrwydd y siopau llyfrau fel ffynhonnell gwybodaeth a’r prif leoliad ar gyfer prynu llyfrau.

Fel y byddid yn disgwyl, gwneir defnydd helaeth o’r we i ddod o hyd i wybodaeth am lyfrau, a gwelwyd cynnydd yn y nifer sy’n defnyddio’r we i brynu llyfrau (o 21% yn 2013 i 27% yn 2016).

“Mae’r gyfres hon o arolygon yn bwysig iawn i’r Cyngor Llyfrau a’r diwydiant cyhoeddi,” meddai Arwel Jones o Adran Grantiau Cyhoeddi’r Cyngor, “ac mae’n braf cael tystiolaeth bod yr amrywiaeth o lyfrau Cymraeg a gyhoeddir yn plesio’r darllenwyr.

"Mae hyn yn sicr yn brawf o lwyddiant y diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf.”

Rhannu |