Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ionawr 2017

Cymru’n anrhydeddu dioddefwyr yr Holocaust

Heddiw, ar Ddiwrnod Cofio’r Holocaust, mae gwasanaeth cenedlaethol yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas Caerdydd er mwyn cofio’r holl bobl a fu farw neu a ddioddefodd o dan erledigaeth y Natsïaid a hil-laddiadau eraill ar draws y byd.

Bydd y gwasanaeth cenedlaethol ar y cyd yn cael ei gynnal gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale, a bydd yn cael ei arwain gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus i Gyngor Dinas Caerdydd.

Bydd Eva Clarke, a oroesodd yr Holocaust, yn siarad am ei bywyd yn ystod y gwasanaeth. Bydd yn adrodd ei hanes o fod yng ngwersyll Mauthausen ym 1945 i greu cartref i’w hun yng Nghaerdydd.

Caiff Diwrnod Cofio’r Holocaust ei gynnal ar 27 Ionawr bob blwyddyn er mwyn nodi dyddiad cau gwersyll-garchar Auschwitz-Birkenau.

Thema’r diwrnod eleni yw “sut y gall bywyd fynd yn ei flaen” a gofynnir i bobl ystyried beth sy’n digwydd ar ôl hil-laddiad a hefyd ystyried ein cyfrifoldebau ni o gofio troseddau o’r fath.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Braint o’r mwyaf yw sefyll ochr yn ochr â phobol ledled y byd wrth anrhydeddu’r bobl a wynebodd yr erchyllterau gwaethaf posibl.

“Mae dyletswydd arnom i gofio’r bobl a fu farw fel ein bod yn cofio pa mor ffodus rydym ni i gael byw mewn cymdeithas oddefgar a gwâr ac er mwyn sicrhau nad yw erchyllterau o’r fath byth yn digwydd eto.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: “Mae’n bwysig iawn ein bod yn cael y cyfle hwn i fyfyrio yn ystod diwrnod cenedlaethol o gofio.

"Dyma ddiwrnod ar gyfer anrhydeddu’r bobl a oroesodd weithredoedd casineb ac ystyried ein ffordd o fyw heddiw er mwyn dod â’n cymunedau ynghyd i greu gwell dyfodol sy’n fwy diogel.”

Bydd sefydliadau gan gynnwys Stonewall Cymru a Race Equality First yn mynychu’r gwasanaeth ar y cyd ag aelodau o gymunedau Iddewig a chymunedau ffydd eraill Cymru.   

 

Rhannu |