Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ionawr 2017

Theatr dros dro i gynnal dros 700 o lawdriniaethau cataract

Bydd theatr lawdriniaeth symudol dros dro yn darparu llawdriniaeth cataract mawr ei angen ar gyfer bron i 700 o gleifion sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae uned ysbyty symudol o’r radd flaenaf, a ddarperir gan DMC Healthcare, yn cael ei gosod yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar hyn o bryd.

Yn dilyn proses gomisiynu a sicrwydd diogelwch drylwyr, bwriedir y bydd y llawdriniaethau’n dechrau ar 1 Chwefror ac yn dod i ben ar ar 31 Mawrth.

Ar hyn o bryd, ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP), mae yna 1,500 o bobl sydd wedi aros dros 36 wythnos am lawdriniaeth cataract.

Y gobaith yw y bydd y mesur dros dro hwn yn sicrhau bod y cleifion sydd wedi aros hiraf yn cael eu trin yn gyflym.

Bydd hefyd yn dod â'r fantais ychwanegol o leihau amseroedd aros yn sylweddol ar gyfer llawdriniaeth cataract ar draws y tair sir.

Dywedodd Joe Teape, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr BIP Hywel Dda: "Mae comisiynu’r theatr symudol dros dro hwn yn cydnabod bod gormod o'n cleifion wedi aros dros y targed aros o 36 wythnos.

"Bydd ein contract gyda DMC Healthcare yn sicrhau y bydd bron i 700 o lawdriniaethau yn cael eu darparu gan lawfeddygon parhaol y GIG o Loegr â data archwilio ardderchog.

"Mae proses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy wedi digwydd i sicrhau bod y lefelau uchaf o ddiogelwch cleifion yn cael eu dilyn.

"Bydd hyn yn galluogi ein timoedd gofal llygaid ar draws y tair sir i symud ymlaen gyda datrysiad mwy cynaliadwy i reoli rhestrau aros ar gyfer triniaeth ac i wneud defnydd gwell o staff ac adnoddau presennol."

Mae'r Uned Theatr Laminar Flow yn darparu pob peth y byddai claf yn disgwyl gweld yn yr ysbyty.

Mae ganddi amgylchedd clinigol modern sy'n cynnwys ystafell anaesthetig; theatr gweithredu; ardal adfer cam-cyntaf â dau wely; ac ystafelloedd newid i staff.

Dywedodd Phil Curran, Rheolwr Gyfarwyddwr DMC Healthcare: "Hyd yn hyn, mae 84 y cant o’r cleifion y cysylltwyd â nhw wedi trefnu apwyntiad ar gyfer llawdriniaeth; ac mae clinigau cyn-asesu eisoes yn cael eu cynnal yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

"Rydym yn hyderus y bydd darparu’r uned hon yn helpu'r timoedd ledled ardal BIP Hywel Dda i gynnig gofal o’r safon uchaf i’w cleifion ac i leihau rhestrau aros.

"Rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â'r prosiect ac edrychwn ymlaen at adolygu'r canlyniadau." 

Rhannu |