Mwy o Newyddion
Daeth dagrau gwên
DYDD Gwener, 5 Awst, ac mae Dirprwy Archdderwydd Cymru yn eistedd yn ei gadair esmwyth, ei draed i fyny, yn sbïo ar yr Wyddfa trwy’r drysau patio yn ei gartref ym mhentref Penisarwaun.
Mae rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol yn llenwi’r sgrin deledu fawr yng nghornel yr ystafell, mae dyfalu mawr ynglŷn â phwy fydd yn mynd a’r Gadair ac a fydd yna ddwbl arall yn Wrecsam 2011. Ond mae cymylau’n hel tros grib uchaf Eryri, ac mae Selwyn yn barod i fynd.
“Dw i wedi cael bywyd da, dw i wedi cael bywyd diddorol, ac wedi cael gwneud llawer iawn mwy nag a feddyliais i erioed y baswn i’n ei wneud,” meddai, fel y gwnaeth sawl gwaith yn ystod ei salwch olaf. Efallai mai’r dedwyddwch hwnnw a roddodd iddo ei gryfder a’i urddas rhyfedd hyd y diwedd.
“Dw i wedi cael bywyd teuluol hapus, mae gen i ffrindiau da, dw i wedi cael bod yn Archdderwydd Cymru, a dw i wedi cael teithio’r byd,” meddai wedyn. Daeth ei daith yn y byd hwn i ben ddydd Mercher (Awst 10), ac yntau’n 83 mlwydd oed.
Mae’r sgwrs yn troi at bêl-droed, a chan wybod fy mod i’n dilyn gleision Glannau Mersi, mae’r cefnogwr Lerpwl yn dweud â gwên boenus ei fod o’n “gobeithio y collan nhw” – y gleision, hynny yw – y noson honno yn Goodison. Roedd o fel rheol yn darogan yn gywir, os mai darogan hefyd yn achos tymhorau truenus diweddar Everton.
Ond roedd ffwtbol yn bwysig i’r cyn-athro, y bardd plant a’r gôl-geidwad a fu am dreial gyda Bolton Wanderers pan oedd o’n ifanc. Ac ar ddiwrnod Cwpan Lloegr bob blwyddyn, fe fyddai Selwyn Griffith yn gwisgo ei siwt orau er mwyn gwylio’r gêm o flaen y sgrin.
Mae pêl-droed yn un o’r tri pheth a fu bwysicaf yn ei fywyd – y ddau arall oedd eisteddfota a theithio’r byd. Fe fu’n ymwelydd cyson â chaeau ffwtbol yr Oval yng Nghaernarfon a Ffordd Farrar ym Mangor, yn yr un ffordd ag y cerddodd eisteddfodau lleol Cymru, gan feirniadu mewn dros 450 ohonyn nhw dros gyfnod o 50 mlynedd. Un o’i addewidion ar gyfer ei gyfnod yn Archdderwydd (rhwng 2004 a 2007) oedd y byddai’n ymweld â phob un eisteddfod leol yn ei ardal, a hynny er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y gwyliau bychain.
Yn ystod ei gyfnod yn Archdderwydd, mynnodd Selwyn Iolen (ei enw yng Ngorsedd) na fyddai’n gwneud datganiadau gwleidyddol o’r Maen Llog. Ond eto i gyd, gwrthododd wneud cyfweliadau Saesneg o faes y Brifwyl. Gallai hynny fod oherwydd ei swildod yn siarad Saesneg, yn ogystal â’i awydd i gadw aelodau mudiad Cylch yr Iaith yn hapus. Beth bynnag oedd yr achlysur, fyddai o byth yn annerch nac yn cyfrannu i’r un rhaglen deledu na radio, heb fod wedi paratoi yn fanwl cyn dechrau siarad.
Gwyliau eraill, gwyliau hamdden, a welodd Selwyn Griffith yn teithio i bedwar cyfandir. A hyd yn oed wedi i’w dyddiau o deithio mewn awyrennau i bellafoedd byd ddod i ben, byddai ef a’i wraig, Myra, yn dychwelyd ar wyliau i’r un ystafell yn yr un gwesty yn yr un dref ym Mallorca ddwywaith y flwyddyn, bob blwyddyn.
Ond er y teithio cyson, wnaeth y mab i chwarelwr erioed symud yn bell o’i bentref genedigol, Bethel, ym mhlwyf Llanddeiniolen. Fe fu’n ysgrifennydd Cyngor Cymuned y plwyf hwnnw am 46 o flynyddoedd, ac roedd dechrau ar ei gyfnod tair blynedd yn Archdderwydd ar dir y cyn-lord yn y Faenol yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 yn hynod o arwyddocaol iddo.
Ef a’i wraig brynodd y Maen Llog newydd ar gyfer yr achlysur, a’r cerrig ‘plastig’, fel y’i gelwir nhw, (ond sydd wedi eu gwneud o jesmonit) yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf y flwyddyn honno.
Ddydd Gwener diwethaf, wrth adael y tŷ ym Mhenisarwaun, wrth oedi yn y drws i godi bawd, roedd hi’n anodd peidio cofio Selwyn yr “anorac” eisteddfodol a fyddai’n arfer holi fy mherfedd am gyn-enillwyr Cenedlaethol ac a fyddai bob amser yn mynd â chopi o’r Cyfansoddiadau ar wyliau gydag ef. Y paradocs o ddyn swil a swagrai i lawr Stryd Llŷn, Caernarfon. Cofio hefyd am orfod dianc yn reit handi o gar oedd ar dân ar daith arall gyda’n gilydd. A daeth dagrau gwên.
Oherwydd yr oedd Selwyn yn barod i fynd, ac roedd cymylau’n hel am gopa’r Wyddfa.