Mwy o Newyddion
Cipio medal aur yn gwireddu breuddwyd
ROEDD y llynedd yn un hynod i’r seiclwr Owain Doull – ac roedd 2016 yn flwyddyn euraidd i Gymru hefyd gan mai fe oedd y Cymro Cymraeg cyntaf i ennill y Fedal Aur mewn Gemau Olympaidd.
Mae rhaglen deledu afaelgar yn dilyn y seiclwr 23 mlwydd oed o Gaerdydd wrth iddo fagu enw da yn y gamp hynod gystadleuol hon lle mae athletwyr y DU a Chymru wedi dod yn frenhinoedd y ffordd a’r trac yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Gwnaeth camerâu S4C ddilyn Owain o’r adeg yr oedd yn paratoi i fod yn rhan o dîm seiclo dynion trywydd Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Rio 2016 yn y gwanwyn i’r amser y daeth yn seiclwr proffesiynol gyda Thîm Sky yn y gaeaf.
Y canlyniad yw rhaglen sydd wedi ei ffilmio’n grefftus o’r enw Medal Aur Owain Doull. A hithau’n cael ei darlledu nos Fawrth, 7 Chwefror mae’n dangos yr ymrwymiad, cryfder, sgil a dewrder sydd eu hangen i fod ar frig y proffesiwn.
Ym mis Awst, hawliodd Doull yr aur yn Rio fel rhan o dîm trywydd a oedd hefyd yn cynnwys Syr Bradley Wiggins, Steven Burke ac Ed Clancy. Yna cyhoeddodd ei fod yn ymuno â Thîm Sky a threuliodd y rhan olaf o 2016 gyda’r tîm cyn troi’n seiclwr ffordd proffesiynol llawn-amser yn y flwyddyn newydd.
“Roedd ennill yr Aur yn brofiad anhygoel, yn uchelgais fy mywyd wedi’i gwireddu, a dyma ddwy flynedd mwyaf emosiynol fy mywyd hyd yma. Roedd tîm y Gemau Olympaidd yn un arbennig a dyna pam y gwnaethon ni mor dda. Ac a bod yn hollol onest, doedd na’r un person yn y tîm doeddwn i ddim yn ei hoffi, ro’n i’n caru pawb,” meddai Owain Doull, a ddechreuodd seiclo gyda’r Maindy Flyers, Caerdydd yn fachgen ifanc.
Ymhlith y rhai sy’n cael eu cyfweld yn y rhaglen mae Syr Bradley Wiggins; Syr David Brailsford, y Cymro sy’n rheolwr cyffredinol Tîm Sky; ei gyd-seiclwr o Gymru, Geraint Thomas a’i ffrind da a chyd-seiclwr, Scott Davies.
Roedd Doull yn rhan o Dîm Wiggins yn 2015 a 2016, gan gystadlu yn y Tour of Britain dan ei lyw, ac mae Syr Bradley yn gwybod beth yw ei botensial fel cystadleuydd ar y trac a’r ffordd.
Meddai Syr Bradley: “Mae’n fy atgoffa i o’r Geraint Thomas ifanc ac mae hynny’n dangos faint yw ei botensial e’. Mae Geraint bellach yn un o seiclwyr ffordd gorau’r byd.
"Fe all e’ gyflawni pethau mawr fel Geraint Thomas, ac mae amser o’i blaid.”
Ond, wrth i ni ei ddilyn yn ymarfer gartref yng Nghaerdydd a chyda Thîm Sky yn Ffrainc, mae Owain yn gwybod yn iawn bod tasg anferth yn ei wynebu er gwaetha’r ffaith ei fod eisoes wedi ennill medal aur Olympaidd.
“Fe fydd yn cymryd amser imi adeiladu fy lle fel rhan o’r tîm hwn. Fe gymerodd amser i Geraint Thomas ac roedd yn rhaid iddo weithio ei ffordd lan.
"Mae bod yn rhan o dîm seiclo mwya’r byd yn beth mawr, heb feddwl am fod yn rhan o dîm y Tour de France,” meddai Owain.
• Medal Aur Owain Doull, Nos Fawrth 7 Chwefror 9.30, S4C. Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C.